Jump to content

22 Tachwedd 2023

Blog gwadd: Tai a iechyd – bet nesaf?

Blog gwadd: Tai a iechyd – bet nesaf?

Mae Dr Gareth Morgan, rheolwr partneriaeth strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn trafod ei sesiwn sbotolau – Codi pontydd rhwng tai ac iechyd.

Roedd hyn yn ymchwilio’r cysylltiadau hanfodol rhwng iechyd a thai ansawdd da, ac yn esbonio pam ei bod yn hollbwysig fod y sectorau iechyd a thai cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth.

Cafodd y cysylltiad rhwng tai ansawdd gwael, gorlenwi a diffyg glanweithdra ar iechyd eu brofi’n gyson. Hyd yn oed yn awr, mae tai yn dal i fod yn berthnasol iawn i iechyd cyhoeddus a’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Mae tystiolaeth gryf fod tai yn ffactor bwysig yn iechyd a llesiant y boblogaeth. Cafodd hyn ei ddogfennu gystal fel ein bod nawr angen ffordd i ymwreiddio tai mewn modd systematig mewn rhaglenni cyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol.

Er fod arfer da ar draws Cymru, mae hyn yn tueddu i fod ar lefel leol – ac rydym angen rhaglen lledaenu a graddfa, lle caiff arfer da ei rannu ar gyfer ei weithredu’n lleol, ar draws Cymru. Gallwch hefyd ganfod mwy am academi lledaenu a graddfa Dragons Heart yma.

Fy nghyfraniad i hyn, mewn partneriaeth gydag ystod o gydweithwyr, fu datblygu canllawiau arfer da ar iechyd a thai drwy ddyfarniad Rhaglen Enghreifftiol Bevan, y gellid ei weithredu’n eang ar draws gwahanol sefydliadau a phartneriaethau.

Mae’n bwysig bod yn glir am botensial tai i gefnogi rhaglen iechyd a gofal integredig ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. I driongl iechyd, gofal cymdeithasol a thai weithio, mae angen i bob elfen gael pwysau cyfartal, ac mae angen iddi fod yn seiliedig ar wir bartneriaeth.

Bydd pwysau yn unrhyw ran o’r system yn effeithio ar bwysau mewn man arall, felly mae diddordeb ar y cyd rhwng y sectorau wrth gael hyn yn iawn, nid yn lleiaf oherwydd y bydd yn darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.

Er enghraifft, mae Gofal a Thrwsio yn darparu addasiadau tai ar gyfer pobl hŷn ac mae tystiolaeth dda y gall gwario punt ar hyn roi adenilliad o tua £7.50 ar fuddsoddiad. Mae hyn yn dangos pa mor rhyng-gysylltiedig yw ein gwaith.

Yn y sesiwn sbotolau, cwestiynodd rhai o’r mynychwyr os yw’r sector tai yn wirioneddol cael ei werthfawrogi fel partner cyfartal. Mae’n bwysig ymchwilio hyn ymhellach drwy drafodaethau pellach rhwng cydweithwyr tai ac iechyd. Gallai fod cyfleoedd i ymchwilio sut y gellir datblygu galluogwyr cydweithredu, er enghraifft brotocolau rhannu gwybodaeth a hyfforddiant ar y cyd.

Gallai papur sefyllfa gan y sector tai am gyfleoedd a rhwystrau gweithio partneriaeth fod yn llinell weithredu arall.

Rwy’n credu y gallem adeiladu rhai dulliau i helpu hyn, tebyg i adnoddau hyfforddiant ar dai ar gyfer staff gofal iechyd, a datblygu protocolau rhannu gwybodaeth rhwng sectorau i sicrhau gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pwynt trafod arall yn ystod y sesiwn oedd jargon proffesiynol, yr ydym weithiau i gyd yn syrthio iddo.

Pa bynnag sector y gweithiwn ynddo, fel gweithwyr proffesiynol mae gennym i gyd ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau i’n cymunedau sy’n hyrwyddo deilliannau cadarnhaol ar gyfer yr unigolion a wasanaethwn. Mae hyn yn amlwg yn ymdrech a gaiff ei rhannu, felly mae sefydlu cyfathrebu da a chlir yn hanfodol.

Rhannodd un cydweithiwr enghraifft o brosiect lleol yn ne ddwyrain Cymru lle roedd y ddeinameg rhwng cydweithiwr yn gryf iawn ac yn galluogi gwasanaethau ansawdd-uchel a’r hyblygrwydd i arloesi hefyd.

Er bod gwaith yn amlwg yn mynd rhagddo i adnabod y rhyngweithio pwysig rhwng iechyd a thai, erys y cwestiwn – beth nesaf? Mae’r ateb yn dibynnu ar ble rydym eisiau cyrraedd. Efallai fod rhywbeth i gael ei wneud i sicrhau y caiff proffil tai ei godi’n ddigonol, fel bod ystyried materion tai yn rhywbeth sy’n digwydd yn ddiofyn lle’n briodol. Gyda hyn dan sylw, mae trafodaethau hefyd yn mynd rhagddynt gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol De Cymru am Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer tai ac iechyd, a fydd yn bwnc sesiwn sbotolau i CHC yn y dyfodol. Mae’r trafodaethau hyn yn ymwneud â phartneriaeth a chydweithio’n agos.

Yn y storm berffaith bresennol o wasanaethau dan bwysau a’r argyfwng costau byw, gallai rhaglen iechyd, gofal cymdeithasol a thai wirioneddol integredig fod yn sefyllfa ennill/ennill i bawb. Efallai y gallai Cymru hyd yn oed arwain ar y ffordd wrth symud ymlaen ar hyn gan fod gennym eisoes arfer da a mantolion ein maint, yn dderwyddol ac yn ôl poblogaeth.

Dr Gareth Morgan yw Rheolwr Partneriaeth Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n ddeiliad Rhaglen Enghreifftiol Bevan. Gallwch gysylltu ag ef yma.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch comms@chcymru.org.uk