Jump to content

08 Hydref 2013

Grŵp CHC yn ymateb i Gyllideb Ddrafft Cymru

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £71.8m mewn tai fforddiadwy yn 2014/15 - cynnydd o 16 y cant o'r flwyddyn ariannol bresennol.

Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd CHC: "Rydym yn croesawu'r cynnydd mewn Grant Tai Cymdeithasol - mae'n dangos fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod buddsoddi mewn tai yn ysgogiad economaidd, sy'n creu hwb i economi Cymru ac sydd hefyd yn cael effaith ehangach yn nhermau creu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant.

"Gall buddsoddi mewn tai fforddiadwy hefyd lacio'r problemau a achosir gan Ddiwygio Lles megis y dreth ystafelloedd gwely, a chroesawn y £5m ychwanegol a glustnodwyd ar gyfer cartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru hyn.

“Hefyd yng ngoleuni Diwygio Lles, croesawn ddiogelu'r budd-dal Treth Gyngor am flwyddyn arall a chredwn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sydd fwyaf ei angen."

Croesawodd Care & Repair Cymru, sy'n rhan o grŵp CHC, y diogeliad a roddwyd i grant cyfalaf y Rhaglen Addasiadau Brys ond roeddent yn siomedig i'r elfen refeniw gael ei thorri gan 10 y cant.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: "Rydym yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi torri ein cyllideb o gofio am y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru, ond byddwn fel mater o frys yn ymchwilio cyfleoedd refeniw dan y gronfa refeniw gofal canolraddol, yn union yr hyn y bwriedir y gronfa yma ar ei gyfer. Mae Gofal a Thrwsio yn rhoi gwasanaeth amhrisiadwy a hollbwysig ac mae'n galluogi pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain."

Datgelodd cyhoeddiad cyllideb heddiw hefyd y bydd y rhaglen Cefnogi Pobl yn gweld buddsoddiad parhaus o £134.4m yn 2014/15 - gostyngiad o 1.5% o'r llynedd. Mae'r buddsoddiad wedi ei drin gan fesur lliniaru o £5.5m yn erbyn toriadau arfaethedig.

Mae CHC a sefydliadau partner wedi gweithio'n galed i amlygu manteision buddsoddi yn yr agenda ataliol sy'n cynnig help a chymorth i filoedd o bobl ledled Cymru.

Yn dilyn y cyhoeddiadau am y gyllideb heddiw, mae CHC yn disgwyl cyhoeddiad pellach yfory ar Refeniw Dyraniadau Cyfalaf.