Jump to content

05 Chwefror 2015

Gostyngiad i Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Mae cylchlythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y torrwyd y dyraniad taliadau tai yn ôl disgresiwn (DHP) ar gyfer awdurdodau lleol yn 2015/2016 gan £40m, gan ostwng o £165m yn 2014/15 i £125m ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywed Cylchlythyr HB S1/2015 y bydd cyfanswm cyfraniad y llywodraeth tuag at DHP yn 2015/2016 yn £125m, a ddyrannwyd mewn pedwar maes:

  • diwygio lwfans tai lleol - £25m;
  • cyllid craidd - £15m;
  • dileu'r cymhorthdal ystafell sbâr - £60m; a
  • cap ar fudd-daliadau - £25m.

Mae Cylchlythyr S1/2015 ar gael yn y ddolen ddilynol: http://bit.ly/1EZqWmB