Gostyngiad i Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Mae cylchlythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y torrwyd y dyraniad taliadau tai yn ôl disgresiwn (DHP) ar gyfer awdurdodau lleol yn 2015/2016 gan £40m, gan ostwng o £165m yn 2014/15 i £125m ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywed Cylchlythyr HB S1/2015 y bydd cyfanswm cyfraniad y llywodraeth tuag at DHP yn 2015/2016 yn £125m, a ddyrannwyd mewn pedwar maes:
- diwygio lwfans tai lleol - £25m;
- cyllid craidd - £15m;
- dileu'r cymhorthdal ystafell sbâr - £60m; a
- cap ar fudd-daliadau - £25m.
Mae Cylchlythyr S1/2015 ar gael yn y ddolen ddilynol: http://bit.ly/1EZqWmB