Gorwelion Tai Cam Dau - Sefydlu'r Her
Heddiw (23 Mehefin) rydym yn lansio Cam Dau ein prosiect Gorwelion Tai yn y Gynhadledd Arweinyddiaeth gyntaf erioed yng Nghaerdydd.
Prif nod Gorwelion Tai yw gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Bydd y weledigaeth hon yn safleoli cymdeithasau tai fel partner o ddewis a rhan hanfodol o'r datrysiad i'r argyfwng tai.
Yn dilyn lansiad dechreuol Gorwelion Tai yn ein Cynhadledd Flynyddol fis Rhagfyr diwethaf, buom yn brysur yn siarad gydag aelodau a rhanddeiliaid am eu canfyddiadau o'r sector, beth y credant yw canfyddiad pobl eraill o'r sector a beth a gredant yw'r heriau sydd i ddod yn 2036 (ugain mlynedd ers y lansiad) a sut y gallwn fynd i'r afael â'r rhain fel sector. Rydym hefyd wedi comisiynu Savills i baratoi adroddiad ar sut olwg sydd ar yr her i'r sector yn 2036 er mwyn bod yn sail i'n gweledigaeth hirdymor, a hwn yw'r adroddiad a lansiwn heddiw yn ein Cynhadledd Arweinyddiaeth.
Mae'n amser ar gyfer y cam nesaf - Sefydlu'r Her.
Mae'n glir y bydd newidiadau demograffig yng Nghymru yn cael effaith fawr ar y cartrefi a'r gwasanaethau a ddarparwn. Er enghraifft, erbyn 2031, caiff 54% o aelwydydd eu harwain gan berson dros 65 oed a bydd 100,000 o aelwydydd wedi'i ffurfio o berson sengl dros 85 oed. Pa mor addas yw ein cartrefi presennol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, a sut mae paratoi ar gyfer y cynnydd mewn pobl a all fod eisiau cael mynediad i dai a gwasanaethau sy'n darparu'n benodol ar gyfer yr henoed?
Wedi cysylltu'n agos â demograffeg, disgwylir i gyfansoddiad aelwydydd newid yn sylweddol erbyn 2036 sydd â goblygiadau ar gyfer yr holl stoc tai newydd a phresennol yng Nghymru. Bydd newidiadau i faint a chyfansoddiad aelwydydd yn y dyfodol yn effeithio ar y galw am eiddo o faint neilltuol, a rhagwelir y byddwn yn gweld symudiad ymaith o deuluoedd tri pherson. Sut y gallwn sicrhau fod gennym ddigon o gartrefi addas i ddarparu'n benodol ar gyfer bywyd yn y blynyddoedd diweddarach yn ogystal ag ar gyfer y newid yng nghyfansoddiad aelwydydd, gan fynd i'r afael â phryderon am hygyrchedd, y gallu i addasu a fforddiadwyedd costau cynnal a chadw?
Yn olaf, yn edrych ar y gweithlu, bydd 96,000 o oedolion oedran gwaith erbyn 2036 a thwf tebygol mewn gwaith rhan-amser. Gan gadw hyn mewn cof, sut allwn ni gefnogi'r nifer cynyddol o aelwydydd gydag incwm is oherwydd gwaith rhan-amser a pha gefnogaeth allwn ni ei rhoi i oedolion ymuno â'r gweithle i gael mynediad i swyddi ar gyflog gwell? Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd mewn oedran ymddeol, a yw'n swyddi yn ddeniadol i ac yn addas ar gyfer pobl hŷn?
Ymwelwch â'n tudalen Gorwelion Tai i ddarllen yr adroddiad llawn a darllen mwy am yr heriau a'r cwestiynau uchod, yn ogystal â chanfod sut y gallwch gymryd rhan a beth yw'r camau nesaf.
Edrychwn ymlaen at glywed eich sylwadau ar Cam Dau - Sefydlu'r Her.