Jump to content

01 Chwefror 2019

Gofal yn mynd yr ail filltir yng Ngwynedd

Gofal yn mynd yr ail filltir yng Ngwynedd
Mae Tai Gogledd Cymru wedi adnabod yr angen i fuddsoddi mewn darpariaeth ar gyfer pobl hŷn, a rydym wedi agor tri chynllun gofal ychwanegol ers 2009. Nid yn unig hynny, ond maent yn mynd yr ail filltir i helpu gwella iechyd ac ansawdd bywyd preswylwyr oedrannus.


Bu Tai Gogledd Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Ysgol y Garnedd ym Mhenrhosgarnedd a Dr Catrin Hedd o Brifysgol Bangor i sefydlu prosiect rhyng-genhedlaeth yn lleol.


Rhoddodd y cynllun gyfle i ddisgyblion pump a chwech oed i fynychu gweithgareddau yn safle Gofal Ychwanegol Cae Garnedd. Caiff gweithgareddau eu trefnu ar gyfer pob ymweliad gyda sesiynau'n canolbwyntio ar gerddoriaeth, crefftau, garddio, gemau a gwahanol sgyrsiau gan asiantaethau partner.


Dywedodd un preswylydd faint mae'n mwynhau'r ymweliadau. Dywedodd: "Byddwn wrth fy modd gweld y plant yn dod yn ôl. Roedd y prosiect yn dda iawn i bobl hŷn gymysgu gyda'r plant. Roeddwn yn teimlo fod gen i berthynas dda ac wedi datblygu cwlwm gyda'r plant. Dydy'r plant ddim yn cymryd sylw o'n problemau symud ac anabledd, dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu yn yr un ffordd ag mae pobl eraill yn ei wneud weithiau. Mae'r ymweliadau yma wedi rhoi gobaith i mi ar gyfer y dyfodol."


Cafodd y cynllun effaith gadarnhaol barhaus ar y plant hefyd. Dywedodd un rhiant: "Mae fy merch yn siarad yn aml am ei ffrindiau newydd yng Nghae Garnedd ac mae'n ddiddorol gweld sut mae'n siarad amdanyn nhw mewn ffordd wahanol i sut mae'n siarad am ei neiniau a'i theidiau. Mae'n eu trin nhw fel ffrindiau i'w parchu ond hefyd i gael hwyl gyda nhw fel ffrindiau ysgol. Rwyf wedi gweld ei fod wedi hybu sgwrs, ei bod yn teimlo'n bwysig pan mae'n mynd."


Mae llawer o breswylwyr, er gwaethaf eu problemau iechyd neu anabledd, wedi ffynnu ers dechrau'r cynllun. Maent yn bywiogi yn ystod y sesiynau ac wrth gymdeithasu gyda'r plant, sy'n gweld tu hwnt i'r gwahaniaeth oedran.


Cafodd dosbarthiadau cadw heini hefyd eu cyflwyno yng Nghae Garnedd fel rhan o ymgyrch i wella llesiant, mewn partneriaeth gyda Dementia Go. Yn ogystal â gwella iechyd preswylwyr, mae gostwng nifer o bobl hŷn sy'n cwympo a gostwng pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn nod bwysig i'r prosiect.


Darllenwch fwy am ein nodau i drechu unigrwydd drwy ddarparu tai cymdeithasol ansawdd da yn ein gweledigaeth Gorwelion Tai.