Jump to content

28 Gorffennaf 2025

Galw pob gweithiwr proffesiynol mewn cyfathrebu ac ymgyrchu! Helpwch ni i lunio dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru

Composition showing the Welsh for "help us shape the future of social housing in Wales" with an image of people working together in the background

Ydych chi yn gyfathrebydd creadigol gyda phrofiad o gyflenwi ymgyrchoedd polisi? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych am weithwyr llawrydd – neu rwydwaith o weithwyr llawrydd – i arwain ymgyrch ddylanwadol sy’n gwneud tai cymdeithasol yn flaenoriaeth wleidyddol cyn etholiadau 2026 Senedd Cymru.

Rydym newydd lansio gwahoddiad i dendro ar gyfer unigolion gydag arbenigedd mewn cyfathrebu, ymgyrchu ac adrodd straeon creadigol. Mae hwn yn gyfle unigryw i ddylanwadu ar y drafodaeth wleidyddol a sicrhau fod gan dai cymdeithasol le blaenllaw a chanolog ar yr agenda cenedlaethol.

Bydd y cynigydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’n tîm ac aelodau i ddatblygu a chyflenwi ymgyrch rymus rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026.

Dyddiad cau cynigion: Dydd Llun 25 Awst, 12 canol-dydd

Darllenwch y briff llawn yma

Os ydych yn barod i ddefnyddio eich sgiliau i wneud argraff barhaus ar dai yng Nghymru, byddem wrth ein bodd clywed gennych.