Jump to content

13 Gorffennaf 2020

Ffigurau Cyfrifon Cynhwysfawr yn datgelu sector tai cadarn yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad Cyfrifon Cynhwysfawr heddiw sy’n dangos rôl hollbwysig cymdeithasau tai Cymru i economi Cymru, gyda dros £2 biliwn wedi’u gwario yn 2018/19.

Fe wnaethom gomisiynu’r adroddiad mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, gan gasglu cyfriflenni ariannol 34 o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, sy’n dangos fod y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i dyfu.

Mae’r canlyniadau’n dangos sector ariannol gadarn gydag ymrwymiad a gallu clir i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ledled Cymru, cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl. Dros y tymor hirach, gweledigaeth y sector tai cymdeithasol yw adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 ac i wireddu’r uchelgais hon, mae angen i’r sector gael sylfeini ariannol cryf gyda pherfformiad cydnerth flwyddyn-ar-flwyddyn.

Mae’r uchafbwyntiau allweddol o’r adroddiad yn cynnwys:

  • Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi gwario £1.3bn yn uniongyrchol, gyda 85% o hwnnw wedi’i gadw yng Nghymru.
  • Am bob £1 a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, mae cymdeithasau tai yn buddsoddi £5.73 yn ôl yn yr economi.
  • Roedd trosiant am y flwyddyn yn £1,006m, cynnydd o £954m yn 2018. Rhagwelir y bydd trosiant yn cynyddu gan 4% y flwyddyn i £1,224m erbyn 2024.
  • Mae asedau sefydlog tai, cyn dibrisiant, wedi parhau i gynyddu ac mae’n awr yn sefyll ar £7.9bn, cynnydd o 6% ers 2018. Rhagwelir y bydd asedau tai yn codi gan gyfartaledd o 8% y flwyddyn i £11.5bn erbyn 2024.
  • Mae cymdeithasau tai yn parhau i gefnogi tua 25,000 o swyddi cyfwerth ag amser-llawn yng Nghymru, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
  • Mae cymdeithasau tai yn Cymru yn berchen ac yn rheoli bron 165,000 o gartrefi, cynnydd net o 1,838 o’r flwyddyn flaenorol.
  • Buddsoddwyd £399m mewn datblygu cartrefi newydd yng Nghymru, cynnydd o £325m yn 2017/18.
  • Mae trosiant cyfartalog fesul annedd tai cymdeithasol wedi cynyddu o £5,250 yn 2018 i £5,459 yn 2019, cynnydd o 4%.
  • Mae lefelau Cyfalaf a Chronfeydd wrth Gefn yn awr yn £1.17bn (2018: £1.15bn), gan arddangos yr hyder sydd gan fenthycwyr yn y sector tai cymdeithasol.

Dywedodd Steve Evans, Cyfarwyddydd Cynorthwyol, Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae’r argyfwng iechyd cyhoeddus a achoswyd gan y pandemig eleni a’r heriau economaidd dilynol a wynebwn fel cenedl yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn cadw sylfaen ariannol cryf i fuddsoddi mewn cymunedau, cartrefi a phobl.

Mae’r adroddiad Cyfrifon Cynhwysfawr yn dangos ymrwymiad parhaus rhwng cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i gyflawni ein huchelgais o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Gallwn i gyd wneud wahaniaeth a chefnogi darpariaeth tai ansawdd da a fforddiadwy ledled Cymru, ysgogi economi Cymru, a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl.”

Darllenwch fwy yma.