Jump to content

28 Mai 2024

Diweddariad ar strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024

Diweddariad ar strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024

Pan wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021 gwyddem, fel y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, fod angen gwneud llawer mwy o waith a sicrhau cynnydd. Gosododd y strategaeth ni ar lwybr uchelgeisiol i gofleidio amrywiaeth Cymru yn llawn fel cyflogwr a hefyd ar draws ein darpariaeth gwasanaeth.

Yn dilyn hynny fe wnaethom ymrwymo i gyfres o gynlluniau gweithredu i ddynodi ein blaenoriaethau penodol yng nghyswllt gwahanol nodweddion gwarchodedig. Y cyntaf o’r cynlluniau gweithredu hyn oedd ffocws ar gydraddoldeb hil, gan adlewyrchu’r ymrwymiadau a wnaethom fel rhan o Addewid Gweithredoedd nid Geiriau Tai Pawb.

  • Gwnaethom gynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn nifer o feysydd ar draws y strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil. Fe wnaethom:
  • ymchwilio sut y gall ein model darparu gwasanaeth newydd roi cyfleoedd i ystod amrywiol o leisiau fwydo i mewn i’n gwaith eiriolaeth;
  • datblygu perthnasoedd newydd a chydweithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno cyfleoedd dysgu ar y cyd cyfoes i’n haelodau;
  • rhoi sylw i waith ein haelodau drwy lens cydraddoldeb ar draws ein llwyfannau;
  • ceisio cynrychiolaeth amrywiol o siaradwyr yn ein digwyddiadau a chynadleddau lle bynnag yn bosibl; a
  • dechrau gwaith ar ein strategaeth pobl, a gaiff ei llywio gan ymgysylltu rheolaidd gyda staff

Pan ysgrifennais gyntaf am ein strategaeth a chynllun gweithredu, dywedais bryd hynny nad dyna’r gair olaf, ac i ni fod yn llwyddiannus y byddai’n rhaid i ni barhau i fyfyrio a dysgu. Daeth yn amlwg y bu ein bwriad i baratoi cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer ystod o nodweddion gwarchodedig, ac ar yr un pryd sicrhau cynnydd ar ein hymrwymiadau dechreuol, yn llawer mwy heriol ac angen mwy o adnoddau nag a ragwelwyd. Nid yw ychwaith yn adlewyrchu’r angen i ystyried croestoriadedd cymunedau amrywiol. Felly bu ein llwyddiannau yn wasgarog a chyfyngedig heb gynllun clir a syml yn ei le ar gyfer pob agwedd o gydraddoldeb. Wrth geisio gwneud y peth iawn, mae’n amlwg ein bod wedi gorgymhlethu’r daith i ddod yn sefydliad tecach. Mae hyn yn anfwriadol wedi arwain at ein dal yn ôl rhag cymryd camau gweithredu mwy rhagweithiol.

Fel sefydliad bach, mae angen i ni ymwreiddio prosesau yn ein gweithgaredd presennol i sicrhau ei fod yn greiddiol i’n gwaith, y gall oroesi newidiadau arferol mewn staff, a’i fod yn ein galluogi i gadw ein ffocws ar draws yr holl sefydliad. Mae’r cyfnod hwn hefyd wedi rhoi cyfle i ni ystyried ein blaenoriaethau, sylweddoli lle nad yw’r arbenigedd gennym ac i ddynodi lle mai’r peth gorau yw manteisio ar ein partneriaid i roi’r dulliau a’r cymorth angenrheidiol i ni a’n haelodau.

Oherwydd hyn, rydym wedi addasu ein hymagwedd yn ddiweddar er mwyn creu un cynllun gweithredu cynhwysfawr sy’n cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig ehangach, yn hytrach na nifer o gynlluniau gweithredu unigol. Bydd hyn yn ein galluogi i drin cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ffordd groesdoriadol, ac ystyriwn bod hynny’n hanfodol wrth gyflawni ein nodau. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn rhoi mwy o eglurdeb ar draws y sefydliad, ac yn rhwyddach i’n haelodau, rhanddeiliaid a phartneriaid weld ein cynnydd. Fel rhan o hyn, rydym wedi paratoi dadansoddiad mwy manwl o’n cynnydd hyd yma ar bob un o’r camau gweithredu. Mae hyn ar gael yma a rhoddir adroddiad blynyddol arno i’n cadw yn atebol.

Rydym yn obeithiol y bydd y dull gweithredu newydd hwn yn ein galluogi i dyfu ar y sylfeini cadarn y gwnaethom eu gosod i ddechrau hybu newid mwy ystyrlon, gan ein helpu i chwarae ein rhan mewn gwella cydraddoldeb ar draws y tirlun tai cymdeithasol.

- Stuart Ropke, prif weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru