Eithrio Tai a Chymorth o’r cap Lwfans Tai Lleol ond Ansicrwydd yn Parhau
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i alwadau gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a chymdeithasau tai Cymru i eithrio tai â chymorth o’r cap lwfans tai lleol (LHA) hyd 2019, Unwaith y’i gweithredir, bydd mewn grym ar gyfer pob tenantiaeth tai â chymorth a chaiff unrhyw ddiffyg ei lenwi drwy gronfa atodol a ddatganolwyd i dalu am gost cymorth ychwanegol. Croesawodd CHC hefyd na fydd y gyfradd llety rhannu yn weithredol i bobl sy’n byw mewn tai a chymorth.
Fodd bynnag mae cwestiynau’n parhau am p’un a yw’r model arfaethedig newydd yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen i ddiogelu tai â chymorth yn yr hirdymor.
Ychwanegodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: “Ar yr wyneb, mae hyn yn newyddion da. Nid yw’n doriad mewn cyllid, dim ond dull ariannu gwahanol i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer pobl agored i niwed. Fodd bynnag, rydym yn awr angen sicrwydd y bydd y cyllid ychwanegol a ddatganolwyd yn ddigonol, gan rhoi hyblygrwydd yn yr hirdymor a bod mesurau diogelu yn ei lle i sicrhau fod yr arian yn cyrraedd y bobl gywir yng Nghymru.
“Bydd y polisi hwn yn effeithio ar 57% o bobl sy’n byw mewn tai a chymorth yng Nghymru ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’n haelodau i gyfathrebu ein pryderon. Heb yr eithriad, byddai’r cap wedi peryglu llawer o denantiaethau ac atal datblygu cynlluniau tai â chymorth yng Nghymru yn y dyfodol.”
“Bydd sicrwydd cyllid hirdymor yn sicrhau y gall cynlluniau presennol barhau ar agor ac y gall cynlluniau newydd fynd rhagddynt. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion y cynllun a ddatganolwyd i sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer y rhai sydd angen tai a chymorth ledled Cymru.”
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi y bydd proses ymgynghori am y model cyflenwi cyllid ychwanegol. Gellir gweld y datganiad llawn yma: