Jump to content

28 Tachwedd 2025

Ein barn: Gwneud i Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru) weithio yn ymarferol

Ein barn: Gwneud i Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru) weithio yn ymarferol

Crynodeb o safbwyntiau Tai Cymunedol Cymru

Cefndir

Diben creiddiol cymdeithasau tai Cymru yw darparu cartrefi diogel a fforddiadwy. Cafodd y Bil ei seilio ar dair egwyddor greiddiol: diogelwch, atebolrwydd a llais preswylwyr. Mae cymdeithasau tai yn cymryd pob un o’r egwyddorion hyn o ddifri a dyna pam fod pob cymdeithas tai yng Nghymru yn 2020 wedi ymrwymo i Diogelwch yn Gyntaf mewn Tai – fframwaith sy’n cefnogi cyflawni a chynnal dull gweithredu tryloyw at faterion iechyd a diogelwch gyda phreswylwyr. Nod y cynllun gwirfoddol hwn yw sefydlu safonau uchel o ran ymgysylltu â phreswylwyr a bod yn ymatebol am bryderon am ddiogelwch ac mae’n rhoi cymdeithasau tai mewn sefyllfa gref cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Crynodeb o’n sefyllfa:

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn llwyr gefnogi nodau’r Bil ac yn cytuno fod ei ddiwygiadau yn angenrheidiol a’i bod yn hen bryd eu cyflwyno er mwyn gwella diogelwch preswylwyr, atebolrwydd a hyder y cyhoedd.

Fel y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, ein ffocws yn awr yw sicrhau fod y Bil yn gymesur, ymarferol ac y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad.

Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â phedwar rhwystr hollbwysig er mwyn ei weithredu yn llwyddiannus.

Ein ffocws: Mynd i’r afael â rhwystrau gweithredu

1. Sicrhau cyllid a chapasiti

Mae’r system newydd yn rhoi cyfrifoldebau sylweddol ar gymdeithasau tai, yn cynnwys ‘edefyn aur’ gwybodaeth am ddiogelwch, adroddiadau achos diogelwch ac asesiadau risg strwythurol. Mae angen gwaith sylweddol ac arbenigwyr medrus iawn ar gyfer y dyletswyddau hyn.

  • Y broblem: Mae prinder arbenigwyr yng Nghymru ac mae’n rhaid i’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau newydd gael ei gyllido’n iawn i osgoi’r oedi costus a’r gweithredu anghyson a welwyd yn Lloegr. Yn hollbwysig, mae’r angen amser ac adnoddau i uwchraddio ein systemau gwybodaeth presennol i ateb y gofynion estynedig hyn.
  • Ein gweithredu: Rydym yn galw am ddarparu cyllid wedi ei dargedu yn uniongyrchol i’r sector. Credwn ei bod yn annerbyniol i gostau cyflawni’r safonau diogelwch newydd hanfodol hyn gael eu gosod ar denantiaid a lesddeiliaid. Rydym hefyd angen Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau Cymru wedi ei baratoi a gyda’r adnoddau llawn.

2. Cymhwysedd a gweithlu

Mae’r Bil yn rhoi dyletswyddau cyfreithiol newydd ar sefydliadau i gyflogi “unigolion cymwys” gydag “arbenigedd digonol”. Fodd bynnag, mae manylion ystyr hyn yn parhau’n aneglur.

  • Y broblem: Mae’r sector yn wynebu argyfwng sgiliau – mae prinder mawr o weithwyr diogelwch adeiladau proffesiynol, aseswyr risg tân ac unigolion cymwys eraill yng Nghymru. Mae’r bwlch hwn yn rhwystr sylweddol i gyflawni’r dyletswyddau newydd, yn arbennig yn y tymor byr. Mae ansicrwydd am y diffiniad o ‘arbenigrwydd digonol’ yn ei gwneud yn amhosibl bod yn hyderus wrth gynllunio recriwtio a hyfforddi.
  • Ein gweithredu: Rydym yn galw am gynllun clir a strategol ar gyfer gweithlu gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi, ardystio a thyfu’r gweithlu angenrheidiol. Rhaid rhoi’r eglurdeb hwn ar unwaith er mwyn osgoi oedi wrth weithredu ac anghysondeb ar draws y sector.

3. Rheolau eglur

Mae gorddibyniaeth y Bil ar ddeddfwriaeth eilaidd a chanllawiau yn gonsyrn sylweddol – gan olygu fod llawer o fanylion ymarferol, dydd-i-ddydd y gyfraith newydd yn dal i gael eu datblygu.

  • Y broblem: Mae’r ansicrwydd hwn yn atal landlordiaid rhag paratoi’n effeithiol ar gyfer gweithredu. Er bod canllawiau yn ddefnyddiol, mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth sylfaenol ei hun fod yn gliriach ac yn fwy cyflawn i sicrhau cysondeb ac ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd. Mae darpariaethau sy’n defnyddio termau amwys, i gael eu diffinio maes o law mewn canllawiau, yn tanseilio tryloywder ac yn lleisteirio'r craffu angenrheidiol gan Senedd Cymru. Rydym hefyd angen map trywydd clir am sut y bydd y rheolau newydd yn cydfynd â chyfreithiau sy’n bodoli eisoes tebyg i’r Gorchymyn Diogelwch Tân a’r Ddeddf Rhentu Cartrefi.
  • Ein gweithredu: Rydym wrthi’n cydweithio gyda’r Llywodraeth ac arbenigwyr i sicrhau fod yr holl reoliadau a chanllawiau yn glir ac ymarferol ac y cânt eu cyhoeddi mewn da bryd cyn i’r gyfraith ddod i rym. Rydym hefyd yn galw am ddull gweithredu clir mewn camau sy’n rhoi amser arweiniol digonol i ddeiliaid dyletswydd a landlordiaid i baratoi.

4. Bod yn gymesur

Mae’r ddeddf newydd yn cynnwys pob adeilad gyda dau neu fwy o gartrefi, gan olygu fod ganddi gwmpas ehangach na’r gyfraith gyfatebol yn Lloegr.

  • Y broblem: Er ein bod yn cefnogi egwyddor gweithredu ehangach i gynyddu diogelwch preswylwyr i’r eithaf, mae’n rhaid i’r gofynion ymarferol fod yn hylaw ar gyfer adeiladau llai.
  • Ein gweithredu: Rydym yn gweithio gyda’n haelodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau fod y gofynion ymarferol ar gyfer adeiladau llai yn gymesur ac nad ydynt yn lleihau’r safonau diogelwch hollbwysig yr ydym i gyd yn ymdrechu i’w cyflawni.