Jump to content

30 Gorffennaf 2020

Effaith Covid-19 ar dai a’r rôl mewn adferiad

Effaith Covid-19 ar dai a’r rôl mewn adferiad
Mae Jemma Bere yn denant aelod bwrdd cymdeithas Tai Wales & West ac yn Rheolwr Ymchwil Cadw Cymru’n Daclus. Yma mae’n amlinellu’r effaith y gallai tai da ei gael ar adferiad yn dilyn Covid-19 yng Nghymru.


Mae’r pandemig Coronafeirws wedi newid popeth. Wrth i’r don bresennol gilio, mae llawer ohonom yn gofyn sut olwg fydd ar y ‘normal’ newydd. Amlygodd y cyfyngiadau clo lawer o agweddau o’n cymdeithas, o’r economi i’n system cyflenwi bwyd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cyhoeddus. Rydym nawr yn edrych ar y pethau hyn yng ngoleuni’r pandemig gyda llygaid newydd, beirniadol.


Bu profiad y cyfnod clo yn wahanol i bawb, ond mae bod yn gaeth i’n cartrefi am gyfnodau estynedig wedi rhoi lle blaenllaw i faterion tai a bydd yn dod hyd yn oed fwy felly ar ein taith i adferiad. Mae llawer o ‘Gynlluniau Adfer’ yn rhoi sylw i adeiladu tai fel un o’r ffyrdd allweddol ymlaen ac er bod gan hyn fanteision amlwg, bu llawer llai o drafodaeth ar gysyniad tai yn ei gyfanrwydd.


Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth fel ymateb i’r cyfnod clo oedd gwneud ymdrech gydlynol i letya pobl oedd yn cysgu ar y stryd. Darparwyd 800 lle ar unwaith mewn gwestai, hostelau a llety gwag ond datrysiad tymor byr oedd hwnnw. Gyda chyfyngiadau yn llacio, mae sylw yn troi i sut y gellir darparu cartrefi hirdymor fel ein bod yn osgoi llu o bobl rhag dychwelyd i fod yn ddigartref. Mae cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn rhan o’r datrysiad hwn ond mae angen i ni gofio mai dim ond dechrau’r daith yw darpariaeth tai, bydd llawer o’r rhai sy’n ddigartref angen cefnogaeth dros gyfnod er mwyn medru ailadeiladu eu bywydau.


Bydd cefnogaeth a chydweithredu rhwng asiantaethau yn allweddol i wrthdroi’r tueddiad blaenorol a welodd gynnydd o 6% yn y nifer yn cysgu ar y stryd rhwng 2018-2019 a’r nifer uchaf o aelwydydd digartref yn chwarter olaf 2019 ers dechrau cadw cofnodion. Os oes un peth da i ddod allan o’r pandemig, hyn fu hynny ond bydd angen llawer iawn o benderfyniad, buddsoddiad ac adnoddau i atal pethau rhag symud yn ôl.


Mae gan Gymru rai o’r cartrefi hynaf ar gyfer rhent preifat gyda 43% wedi eu hadeiladu cyn 1919, a gall hyn yn rhwydd fod i gyfrif am y ffaith yr ystyrir bod 18% o stoc tai Cymru o ansawdd ‘gwael’. Teuluoedd yw traean tenantiaid preifat ac mae eu chwarter ar incwm isel. Dywedodd Shelter bod colli tenantiaeth yn y sector rhent preifat yn un o’r prif ffactorau sydd i gyfrannu at ddigartrefedd statudol.


Mae Shelter Cymru wedi dadlau ers amser maith am fwy o sicrwydd daliadaeth ar gyfer rhentwyr preifat a thribiwnlys tai arbenigol i Gymru yn ogystal â chorff cenedlaethol i gynrychioli tenantiaid. Byddai dull gyda ffocws ar ataliaeth at ddigartrefedd yn gweld hyn fel blaenoriaeth. Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol wrth i rentwyr preifat barhau i dyfu ac oedran cyfartalog tenantiaid gynyddu, gan wneud y demograffig gymaint â hynny yn fwy bregus, a chymaint â hynny yn fwy o angen cefnogaeth a llais.


Yn ogystal ag amrywiaeth ar ansawdd tai, gwelodd y newid mewn diwylliant a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 lawer o bobl yn gweithio gartref. Gall hyn gael canlyniadau cadarnhaol a chynhyrchiol i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd ond dim ond os yw eu cartref yn addas i’r diben. Nid dim ond mater o ofod yw hyn ond hefyd y gallu i fedru fforddio twymo’r cartref. Gyda 155,000 o aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, mae’n annhebyg y caiff hyn ei ystyried yn ffactor yn y diwylliant gwaith newydd wrth i gyflogwyr gau swyddfeydd a gadael rhai heb fawr o ddewis.


Nid ydym hyd yma wedi gweld effaith lawn y pandemig ar economi Cymru ond cyn gynted â mis Mawrth, gwelsom nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau bron yn dyblu i 6.8%, ac mae Sefydliad Bevan wedi rhagweld cyfradd diweithdra o bron 20%. I roi hynny mewn cyd-destun, dim ond ychydig yn is na’r blynyddoedd rhwng y rhyfel yw hynny, ac mae 8% yn uwch na record fwy diweddar 1984 o 12%.


Mae gan gymdeithasau tai hefyd rôl i’w chwarae mewn diweithdra wrth gwrs, nid dim ond drwy ddarparu’r tai eu hunain ond hefyd y diwydiannau cysylltiedig ac (yn gynyddol) ddarpariaeth prentisiaethau mewn crefftau cyffredinol.


Dylai fforddiadwyedd tai fod yn gonsyrn blaenllaw i Lywodraeth Cymru os ydym i osgoi cynnydd sylweddol mewn aelwydydd digartref. Yn yr un modd, bydd hyblygrwydd a chefnogaeth gan landlordiaid i denantiaid dalu rhent mewn ffordd y gallant ei fforddio yn allweddol i ddyfodol y sector ond mae hefyd angen i ni fod yn ymwybodol o ‘sgil-effeithiau’ dirwasgiad o’r fath tebyg i’r cynnydd mewn trais domestig a’r effaith ar iechyd meddwl. Mae model rhent byw yn gam ymarferol ymlaen wrth sicrhau fforddiadwyedd ar draws y bwrdd ond unwaith eto, bydd cefnogaeth rhyngasiantaeth yn hanfodol i helpu’r rhai sydd mewn mwyaf o risg.


Nid dim ond ansawdd cartrefi fydd wedi effeithio ar lesiant dros y cyfnod clo ond hefyd ansawdd gofod safon uchel yn yr awyr agored. P’un ai oedd hynn yn ardd, parc lleol neu ddim ond gofod gwyrdd ‘yn y canol’, mae llawer o dystiolaeth dros effaith natur ar ein llesiant.


Dengys ymchwil fod parciau a gofodau gwyrdd y Deyrnas Unedig yn sicrhau dros £34 biliwn o fuddion iechyd a llesiant. Arweiniodd y cyfnod clo at fwy o werthfawrogiad o’r gofodau hyn gyda llawer o bobl yn sôn am ‘ailgysylltu’ gyda natur a 71% o bobl yn dweud eu bod eisiau gwelliannau yn eu parciau a’u gofodau gwyrdd lleol. Ond mae llawer iawn o gartrefi – yn arbennig ar gyfer y grwpiau oedran ifanc a hŷn yn fflatiau heb unrhyw fynediad i ardd (1 mewn 8 ar draws y Deyrnas Unedig) ac mae gan lawer fwy, yn drefol a gwledig, amgylcheddau safon isel neu anniogel, a gaiff eu hagru gan dipio anghyfreithlon, baw cŵn, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.


Mae cydberthynas rhwng amddifadedd ac ansawdd amgylchedd lleol gwael ac mae’r effeithiau yn ymestyn ymhell tu hwnt i ddim ond bod yn ddolur llygad. Mae creu gofodau cymunol yn hwb i iechyd a llesiant cadarnhaol ac yn creu ymdeimlad o gydlyniaeth gymunedol, gostwng arwahanrwydd a chanfyddiad o ddiogelwch ac ymddiriedaeth. Mae cost gymharol cynnal parciau a gofod gwyrdd yn fach pan ystyriwn pa mor bwysig yw’r gofodau hyn ond nid yw eu cynnal a chadw na’u diogelu yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol a bydd mewn risg os oes mwy o doriadau cyllideb i ddod.


Gall ymddangos fel oes yn ôl ond meddyliwch yn ôl i fis Chwefror. Cafodd y Deyrnas Unedig dair storm ddifrifol o fewn bythefnos gan achosi nid un achos, ond dau ddigwyddiad llifogydd ‘1 mewn 100 mlynedd’. Collodd fy nhad 80 oed ei gartref yn y llifogydd hynny ac roedd yn ffodus i ddianc gyda’i fywyd a haint difrifol o’r dŵr llif halogedig. Mae’n byw gyda fi ar hyn o bryd nes bod y cwmni yswiriant yn ei alluogi i gael cartref arall a fydd yn cymryd o leiaf tan ddiwedd y flwyddyn, yn wahanol i lawer o’i gymdogion sydd nawr mewn risg o ddigartrefedd neu renti preifat uchel ar adeg pan maent angen yr holl arian y gallant ei gael i ailadeiladu ar ôl colli popeth oedd ganddynt.


Os ydym i ganolbwyntio ar y polisïau cymdeithasol ac economaidd newydd ar gyfer adferiad heb drafod yr amgylchedd, ni fydd yn adferiad o gwbl. Pa bynnag olwg fydd ar y normal newydd yn dilyn Covid, mae Swyddfa’r Met yn rhagweld y disgwylir llifogydd eithafol bob 1 i 30 mlynedd.


Felly, os yw 2020 wedi dangos unrhyw beth, y ffaith ein bod yn edrych yn fwy nag erioed ar ein cartrefi i’n diogelu yw hynny.


Hoffech chi gael cyfle i herio’r status quo a gweithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr yn y sector tai i lunio datrysiadau i adeiladu Cymru well? Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen ar gael yma.