Jump to content

17 Rhagfyr 2021

Edrych yn ôl ar 2021 – mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru

Edrych yn ôl ar 2021 – mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru

Mae pandemig Covid-19 wedi dangos llawer o wendidau a bregusrwydd yn ein cymdeithas, nid yn lleiaf y bwlch cynyddol mewn anghydraddoldeb a’r cysylltiad rhwng tlodi a deilliannau iechyd gwaelach. Mae’r bwlch yn nifer y blynyddoedd mae pobl yn byw mewn iechyd da neu dda iawn rhwng yr ardaloedd mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus yng Nghymru yn 16.9 blwyddyn ar gyfer dynion a 18.3 blwyddyn ar gyfer menywod.

Mae cartref saff, addas a fforddiadwy yn ffactor benderfynu allweddol mewn bywyd hapus ac iach ac mae bellach ymwybyddiaeth gynyddol o rôl tai mewn iechyd a llesiant oherwydd y pandemig. Mae’n llawer caletach i gadw’n ddiogel ac iach os yw eich cartref yn orlawn, gyda awyriant gwaelach, heb fod yn addas ar gyfer eich anghenion neu os na allwch fforddio ei wresogi. Roeddem yn falch i weld y cyhoeddiad diweddar am y Cynllun Cymorth Tywydd Gaeaf, fydd yn helpu aelwydydd incwm-isel i lacio’r pwysau ar gostau byw y gaeaf hwn. . Mae hyd yn oed yn galetach i gadw’n ddiogel ac iach hyd yn oed yn galetach os nad oes gennych gartref o gwbl, fel mae fy nghydweithwraig Bryony yn ei esbonio yn ei herthygl am ddigartrefedd.

Mae cymdeithasau tai yn gynyddol yn canfod ffyrdd i gefnogi iechyd eu tenantiaid, preswylwyr a chymunedau. Mae darparu tai ansawdd da yn rhan o hyn, ond nid dyna’r darlun llawn. Yn ogystal ag atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty drwy gael cartrefi cyfleus addas, mae mwyafrif y cymdeithasau tai yng Nghymru hefyd yn hyrwyddo a chynnal annibyniaeth preswylwyr drwy dai gyda gofal a chymorth. Ar hyn o bryd mae Cymru yn cyfeirio mwyafrif ei gwariant iechyd tuag at wasanaethau argyfwng ac ymatebol, ac mae’n rhaid i ni barhau i symud buddsoddiad tuag at waith hirdymor ac atal.

Eleni gwelsom lawer iawn o waith lleol a rhanbarthol gwych lle gallodd cymdeithasau tai ddefnyddio eu rôl fel angorau cymunedol i gefnogi iechyd a llesiant.

  • Ym Mehefin 2021, bu Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA), Canolfan Iechyd Loudon a Muslim Doctors Cymru yn cydweithio i hyrwyddo a goruchwylio Hyb Brechu Covid-19 yn Butetown, Caerdydd.
  • Mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, agorodd ClwydAlun Hyb Cymunedol I CAN yn y Rhyl, tref ar yr arfordir lle gall disgwyliad bywyd iach fod hyd at 12 blynedd yn llai na rhannau eraill o’r wlad.
  • Prosiect Hapi Cymdeithas Tai Newydd a lansiwyd yn 2016 ac sy’n cynnig adnoddau am ddim a mynediad i weithdai i gymunedau lleol ar draws Rhondda Cynon Taf i gael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a llesiant. Mae ei lwyddiant wedi arwain at fwy o gyllid, gan alluogi ymestyn y gwasanaeth i Gaerdydd a Bro Morgannwg.

Gan ymlaen at 2022, mae cyfleoedd sylweddol i fynd i’r afael ymhellach ag anghydraddoldeb iechyd.

Yn gyntaf, ail-lunio’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid. Bydd y gronfa buddsoddiad refeniw hon yn rhedeg o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2027 a bydd yn canolbwyntio ymhellach ar ddarpariaeth integredig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru. ‘Byddwn yn helpu i hybu’r newid sydd ei angen i sicrhau fod hyn yn cyflawni ar ei addewidion uchelgeisiol.

Yn ail, mae Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru yn amlinellu nifer o gynigion: am hawl i gartref digonol, creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ac i ddod â digartrefedd i ben. Mae’n debygol y sefydlir grwpiau arbenigol i ymchwilio a symud ymlaen i‘r uchelgeisiau hyn, felly efallai na fyddwn yn gweld unrhyw effaith yn 2022, ond gobeithio yr aiff â ni gam yn nes at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd a thai.

Yn drydydd, ein galwad am strategaeth ar anghydraddoldeb iechyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cynghrair Iechyd a Llesiant Conffederasiwn y GIG, yn ymgyrchu am ymateb cydlynus at anghydraddoldeb iechyd corfforol a iechyd meddwl ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Byddwn hefyd yn parhau i feithrin perthynas gydag aelodau o’r Senedd o bob plaid, gan godi ymwybyddiaeth o faint yr heriau ac annog y llywodraeth i gymryd gweithredu ar draws y sector.

Yn olaf, mae partneriaethau rhanbarthol: cymdeithasau tai yn gweithio gyda phartneriaid yn lleol ac yn rhanbarthol i amlygu cyfraniad tai i iechyd da a llesiant. Mae CHC yn adeiladu ar sylfaen tystiolaeth i gefnogi cymdeithasau tai wrth iddynt weithio gyda chydweithwyr drwy eu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn 2022 rhagwelwn weld cynlluniau cydweithio a phrosiectau newydd rhwng cymdeithasau tai, byrddau iechyd a phartneriaid eraill.