Jump to content

10 Rhagfyr 2021

Edrych yn ôl ar 2021 – datgarboneiddio yn gadarn ar y map gwleidyddol

Edrych yn ôl ar 2021 – datgarboneiddio yn gadarn ar y map gwleidyddol

Bu 2021 yn flwyddyn fawr i ddatgarboneiddio yng Nghymru – ac felly y dylai fod. Rydym flwyddyn yn nes at 2050, dyddiad y mae’n rhaid i Gymru – yn ôl y gyfraith - gyrraedd allyriadau sero-net.

Rhaglenni Datgarboneiddio Tai Llywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ail gylch cyllid ar gyfer Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio (ORP). Nod y rhaglen yw dechrau ôl-osod cartrefi yng Nghymru i safonau carbon isel. Eleni cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y caiff y rhaglen hon ei chyllido am o leiaf dair blynedd, gydag ymrwymo £50m bob blwyddyn. Dim ond ymrwymiadau cyllido blynyddol a welsom i ORP yn flaenorol ac er y bydd angen hyd at £5bn ar gyfer datgarboneiddio’r sector tai cymdeithasol, mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir i weld sicrwydd hirdymor dros gyllido cartrefi effeithol o ran ynni.

Y llynedd gwelwyd y Llywodraeth Lafur yn gwneud camau breision ymlaen ar gyflawni addewid etholiadol i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy, carbon isel drwy ymrwymo £50m ychwanegol ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol, gan fynd â’r cyfanswm i £250m – bedair gwaith y swm a fuddsoddwyd ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd.

COP26

Eleni cynhaliodd y Deyrnas Unedig un o’r digwyddiadau hinsawdd pwysicaf ers Cytundeb Paris 2015 – COP26. Dywedodd Mark Drakeford y credai fod yr uwchgynhadledd wedi rhoi gobaith o osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Ni ddaeth y digwyddiad heb ddadl, gyda llawer yn dweud y gallai ymrwymiadau fod wedi mynd ymhellach. Fodd bynnag yr oedd yn gam ymlaen gyda channoedd o wledydd yn dod ynghyd i gyrraedd ymrwymiadau ar y cyd i gyrraedd sero-net.

Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol

Cyhoeddodd Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol ei adroddiad Cartrefi Addas ar gyfer y Dyfodol, a edrychodd sut i gyllido datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Mae’n dweud fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i dai os yw i gyrraedd y targed sy’n rhwymo’n gyfreithiol am newid hinsawdd ac yn tynnu sylw at y manteision i economi Cymru tebyg i ddileu tlodi tanwydd, gan arbed £4.4bn i’r GIG a chreu 26,000 o swyddi newydd.

2022 – beth i gadw golwg amdano

Byddwn yn cadw golwg ar ddau faes yn 2022 – cyllidebau a Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Bydd cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn dangos yr ymrwymiad a’r buddsoddiad a wneir i wneud cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni. Gyda SATC2 wedi ei ohirio, byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf ar sut olwg fydd ar y safon nesaf, gan sicrhau uchelgais ond hyfywedd ar gyfer cymdeithasau tai.