Edrych yn ôl ar 2021 – ar ein ffordd i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru
Bydd hanes yn barnu 2021 fel y flwyddyn lle’r ydym wedi clywed yn glir yr ymrwymiad i gymryd gweithredu ystyrlon ar ddigartrefedd.
Pan ddechreuodd tymor newydd y Senedd ym mis Mai, cyhoeddodd y llywodraeth ei ‘Rhaglen’ sy’n egluro’r angen i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd, gan ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Mae’n galondid i ni fod hyn yn flaenoriaeth glir i weinidogion.
Yn fwy diweddar, mae Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddod â digartrefedd i ben ac i weithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys atal wedi’i dargedu, sy’n golygu cymryd camau penodol i atal digartrefedd ymysg grwpiau o bobl sydd fwyaf mewn risg, yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Ymhellach, rydym wedi gweithio gyda Cymorth unwaith eto i barhau a chryfhau ein hymgyrch flynyddol lwyddiannus Materion Tai. Ar ôl sicrhau mwy o fuddsoddiad ar gyfer y Grant Cymorth Tai ar gyfer 2021/22, gofynnwn am fwy o ymroddiad, tymor hirach ar gyfer y grant hwn yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, fel bod gan y rhai mewn angen sicrwydd a diogelwch. Yn dibynnu ar yr hyn a gyhoeddir yn y ddrafft gyllideb, byddwn yn defnyddio misoedd y gaeaf i sicrhau y caiff yr hyn y gwnaethom ofyn amdano ei gyflawni. Darllenwch ein adroddiad Materion Tai diweddaraf yn llawn yma, sy’n cynnwys tri maes blaenoriaeth y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd o ddifrif.
Pwysigrwydd cyllid Grant Cymorth Tai
Mae cyllid Grant Cymorth Tai yn galluogi cynlluniau cymorth tai hanfodol i barhau. Er enghraifft, mae Gwasanaeth Sycamorwydden Hafod yn gweithredu ym mhob rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n anelu i gefnogi pobl dros 55 oed i barhau i fyw’n annibynnol cyhyd ag sydd modd. Maent yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i unrhyw un, lle bynnag y maent yn byw neu pwy yw perchen eu cartref. Mae’r cymorth yn cynnwys:
- Rheoli arian a dyled
- Gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a chynyddu incwm
- Rheoli iechyd a llesiant (pwysig iawn i atal digartrefedd, gan y caiff traean digartrefedd ei achosi gan broblem iechyd).
Mae llawer o gynlluniau cymorth tai yn gweithredu ar draws Cymru, a dyna pam fod Grant Cymorth Tai gyda chyllid digonol mor bwysig. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cymorth i ddarparu pecyn cymorth ymgyrch ar gyfer y sector tai â chymorth i danlinellu pwysigrwydd y grant i Aelodau’r Senedd a dangos sut mae’n gwneud gwahaniaeth.