Jump to content

06 Gorffennaf 2020

Dylanwadu i sicrhau dyfodol gwell

Dylanwadu i sicrhau dyfodol gwell
Ym mis Tachwedd 2016 fe wnaethom ofyn cwestiwn: “dros yr 20 mlynedd nesaf, pa wahaniaeth fyddwch chi’n eu wneud?”


Daeth cwestiwn arall mewn ymateb ... “beth petai?”


Beth petai cartref da yn cael ei ystyried yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru? Beth petai tai yn wirioneddol yn cael ei weld fel y man cychwyn ar gyfer bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus?


Drwy gydol 2017, fe wnaeth 500 o wneuthurwyr gweledigaeth o gymdeithasau tai a’n sefydliadau partner ledled Cymru eu herio eu hunain i feddwl beth fyddai’n ei olygu i bobl fyw mewn cymunedau lle’r oedd cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.


Daeth darlun i’r amlwg lle mae cartrefi da yn hanfodol ar gyfer cymunedau ffyniannus, iach a chysylltiedig. Roeddem eisiau chwarae ein rhan i gyflawni hyn a gosod uchelgais sector ehangach dros y 20 mlynedd nesaf lle byddem yn gweithio mewn partneriaeth i adeiladu 75,000 o gartrefi, datgarboneiddio ein stoc tai, buddsoddi 95c ym mhob punt yn ein cymunedau lleol, creu miloedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant, a darparu gwasanaethau a gosodiadau sy’n cadw pobl allan o ysbyty.


Buom yn brysur ers hynny.


Rydym wedi galw am newidiadau i bolisïau, cyllid a strwythurau oedd yn rhwystro ein llwybr. Gwelsom ystod o adolygiadau yn cynnig newidiadau mawr: i’r ffordd y caiff y sector tai ei gyllido a’i gynllunio, y ffordd y darperir tir, effeithiolrwydd ynni cartrefi newydd a chartrefi presennol, y buddsoddiad y gallwn ei wneud i iechyd a llesiant pobl, ac i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.


Rydym wedi parhau i weithio ar gysylltiadau a phartneriaethau. Gwelsom y sector tai yn cael seddi ar y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac enghreifftiau o gydweithio mewn cyflenwi a gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru.


Rydym wedi buddsoddi mewn meithrin gallu arloesi a chydweithio ar draws ein sector ein hunain, a chymerodd 114 o fynychwyr o blith 98% o’n haelodaeth ran yn ein rhaglen Dyfodol Tai yn gynharach eleni i gydweithio i ddatrys heriau mwyaf y sector tai.


Ond gwyddom nad yw amser yn aros yn ei unfan. Bydd angen dyfalbarhad i chwalu’r rhwystrau mwyaf a wynebwn fel sector ac i ni fel cymdeithas i gyflawni ein gweledigaeth, oherwydd yn aml maent wedi cymryd degawdau a hyd yn oed genedlaethau i ymsefydlu.


Gwyddom fod argyfwng Covid-19 wedi dadlennu annhegwch, ysigiadau a holltau ar raddfa fawr o fewn ein cymdeithas.


Gwyddom fod gan yr argyfwng economaidd sydd o’n blaenau, ar ben argyfwng iechyd cyhoeddus, y potensial i ymsefydlu a chryfhau diffyg cydraddoldeb a thlodi – gan ein llesteirio yn hytrach na’n symud ymlaen.


O fewn ychydig fisoedd yn unig mae’r pandemig wedi arwain at newid sylfaenol yn ein ffordd o fyw, gweithio a chwarae. Effeithiwyd ar bawb mewn rhyw ffordd, gyda llawer yn profi colled drychinebus, neu galedi emosiynol neu ariannol.


Cyffyrddwyd â phob unigolyn, cymuned a busnes, ac i lawer mae wedi cael effaith real ac efallai hirdymor.


Mae eisoes wedi achosi sioc economaidd yn y tymor byr a welodd y nifer sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn mwy na dyblu. Gostyngodd GDP i’r lefel isaf am 300 mlynedd ac mae rhagolygon Banc Lloegr yn ei gwneud yn glir fod Cymru a gweddill Prydain yn debygol o fod ar drothwy cyfnod o ddirwasgiad sylweddol a maith.


Cafodd pwysigrwydd cartref da ei ddangos ar raddfa fawr a chyhoeddus iawn yn ystod y cyfnod cloi. Cafodd y diffyg cydraddoldeb mewn safonau, gofod, cysylltedd a mynediad i ofod awyr agored effaith amlwg iawn ar allu pobl i’w diogelu eu hunain a’u teuluoedd yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus ac maent yn achosi perygl i iechyd a lles meddwl pobl.


Gwyddom fod tai yn rhan fawr o’r ateb ond mai dim ond un rhan yw hynny.


Gwyddom na fedrwn ei wneud ar ein pen ein hunain a bod llawer o sefydliadau, ymgyrchoedd, pobl a phleidiau gwleidyddol yn trafod ac yn meddwl am newidiadau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth.


Cynhelir etholiadau i Senedd Cymru yn 2021 yn dilyn cyfnod o gythrwfl cymdeithasol ac economaidd, na welsom ei debyg ers yr Ail Ryfel Byd. O gofio am faint a chyflymder newid a’r tebygrwydd bod cyflwr cadarn beth amser i ffwrdd, mae angen i ni ddylanwadu, arloesi a datblygu datrysiadau mewn ffordd wahanol.


Mae ein rhaglen waith sy’n anelu i ddylanwadu ar gyfer dyfodol gwell yn gyfle i wneud yn union hynny. Dros y 12 wythnos nesaf rydym eisiau cael sgwrs gyda’n haelodau, pleidiau gwleidyddol, partneriaid eraill i oedi, pwyso a mesur cynnydd a dynodi’r rhwystrau mwyaf sy’n ein hatal rhag sicrhau newid cymdeithasol parhaus, ac i wneud Cymru yn wlad lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.


Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen ar gael yma.