Jump to content

20 Ionawr 2020

Dyfodol Tai: Cyfle enfawr i'r sector

Dyfodol Tai: Cyfle enfawr i'r sector
Dros y 18 mis nesaf bydd cymdeithasau tai ar draws Cymru yn cydweithio ar raddfa fwy nag erioed, gan ddod ynghyd gyda chydweithwyr yn Lloegr a'r Alban i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf yn y sector tai. Edwina O'Hart sy'n arwain Dyfodol Tai yn Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae'n dweud wrthym beth i'w ddisgwyl:


Rwyf wrth fy modd yn dechrau'r Flwyddyn Newydd gyda Dyfodol Tai.


Dyfodol Tai yw'r rhaglen cydweithio arloesedd fwyaf erioed yn y sector tai - wedi ei chreu a'i harwain gan gymdeithasau tai. Mae'n dangos maint ein huchelgais fel sector.


Mae Dyfodol Tai yn rhan o Alcemi, rhaglen CHC i baratoi aelodau ar gyfer y dyfodol. Caiff ei rhedeg ar y cyd gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF), Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban (SFHA) ac arbenigwyr ?whatif! Innovation.


Pam Dyfodol Tai?


Mae'r gallu i greu a bod yn berchen ein dyfodol yn bwysicach ag erioed ac mae angen syniadau newydd a chydweithio ystyrlon ar ei gyfer.


Fel sector, rydym bob amser wedi troi heriau yn gyfleoedd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae Dyfodol Tai yn rhoi cyfle i wneud hynny ar raddfa nas gwelsom o'r blaen.


Diben y rhaglen yw meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi yn y sector, buddsoddi yn ein pobl, adeiladu galluoedd newydd a llunio datrysiadau newydd i heriau a gaiff eu rhannu drwy gynnyrch, gwasanaethau neu ddulliau gweithredu.


Bydd y rhaglen uchelgeisiol yma'n mynd ati i ddynodi heriau, casglu dirnadaeth, llunio syniadau newydd a gwneud iddynt ddigwydd.


Wrth gwrs bydd y cynnyrch, gwasanaethau neu ddulliau gweithredu yn wirioneddol bwysig , ond i ni y broses arloesi yw rhan bwysicaf y rhaglen. Dyma fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Drwy ddysgu, drwy wneud, a drwy gydweithio.


Pa her y dylem ganolbwyntio arni?


Yr allwedd i arloesi da yw syrthio mewn cariad gyda'r broblem. Felly rydym yn dechrau'r rhaglen hon drwy wahodd aelodau i adnabod yr heriau tai mawr y dylem weithio arnynt gyda'n gilydd i'w trin drwy Dyfodol Tai.


Rydym eisiau clywed gennych chi. Rhannwch eich sylwadau gyda ni erbyn 7 Chwefror 2020 os gwelwch yn dda.


Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ym mis Chwefror i adnabod yr her. Yn ogystal â'r cyfle i lunio'r her y deuwn â hi ymlaen, bydd y gweithdai hefyd yn rhoi dyfeisiau a thechnegau arloesi. Rydym yn annog tenantiaid a staff cymdeithasau tai i gymryd rhan yn y gweithdai. Mae manylion pellach a dolenni i'r llyfr ar gael yma.


Rydd yn rhaglen gyffrous sy'n symud yn gyflym, a gobeithiwn eich bod yn barod i gymryd rhan lawn ynddi.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a’r tim yma.