Jump to content

12 Tachwedd 2020

Does Unman yn Debyg i Gartref

Does Unman yn Debyg i Gartref
Ar ddiwedd blwyddyn heriol, lle mae gofynion dydd-i-ddydd canfod ein ffordd drwy bandemig Covid-19 yn parhau’n ddidrugredd, gyda’r canlyniadau i lawer o unigolion yn drychinebus, mae’n anodd meddwl am yfory – heb sôn am y dyfodol. Fodd bynnag mae pandemig Covid-19 wedi dysgu llawer i ni am yr hyn sy’n cyfri mewn gwirionedd, ac am y rhesymau hynny, ni fu erioed yn bwysicach cadw ein llygaid ar y gorwel.


Mae pob etholiad yn cyfri, ond gellid dadlau bod etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf yr un mwyaf tyngedfennol y gallaf gofio. Mae’r etholiad yn cynnig cyfle i ni gymryd rhan mewn trafodaeth gadarn, edrych o’r newydd ar hen heriau, codi ein huchelgais ar gyfer Cymru a mapio trywydd rhyngthom i sicrhau mwy o ffyniant a iechyd i’r genhedlaeth nesaf.


Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn credu fod y daith i genedl well ar gyfer pawb ohonom yn dechrau gartref.


Mae’r pandemig wedi datgelu’n amlwg iawn bwysigrwydd cartref a’r anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn tai gwael. Ni fu lle’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae adroddiad diweddar ‘Tlodi yng Nghymru’ JRF yn amlygu bod y pandemig wedi gwaethygu llawer o’r heriau a wynebodd Gymru dros gyfnod maith.


Mae dros chwarter Cymru yn byw mewn tlodi, a waethygir gan ddiffyg swyddi gyda chyflog da mewn llawer o rannau o’r wlad. Os ychwanegir materion dirfodol eraill, megis newid hinsawdd, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau globaleiddio, a rydym yn wynebu’r angen i ganfod datrysiadau i storm berffaith o broblemau dieflig.


Yn 2017, fe wnaethom gyflwyno ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Nid ydym erioed wedi simsanu o’n barn fod cartref da, gyda’r gefnogaeth gywir lle mae ei hangen, yn hanfodol i bob person a theulu beth bynnag eu hamgylchiadau.


Wrth i ni lansio Cartref, maniffesto Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer etholiad 2021 i Senedd Cymru, mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ystyried yr holl arfau sydd ar gael iddynt i adeiladu Cymru well, yn ogystal â’r camau gweithredu rydym eu hangen gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad.


I gefnogi economïau lleol i ddod yn fwy cydnerth, bydd cymdeithasau tai yn gwneud hyd yn oed fwy i fuddsoddi’n lleol, gan ddefnyddio prosesau caffael i gefnogi busnesau lleol. I gefnogi’r gwaith i wneud cartrefi presennol yn fwy effeithol o ran ynni, byddant yn adeiladu ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol cryf – llafur yn ogystal â deunyddiau. Gan weithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant, busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol Cymru, gallant helpu i greu a chefnogi’r swyddi medrus, diogel y mae angen dybryd amdanynt mewn cymunedau ar draws Cymru.


I chwarae eu rhan yn lliniaru newid hinsawdd, bydd y sector cymdeithasau tai hefyd yn cymryd y camau cadarn sydd eu hangen i gael ei gydnabod fel sector carbon isel. Drwy gynyddu adeiladu amgylcheddol gyfrifol a chynhyrchu ynni wrth ochr gwaith i ddatgarboneiddio’r stoc tai presennol – gellir sicrhau cynnydd.


I gynyddu’r gwerth a sicrhawn i’r pwrs cyhoeddus, ar adeg pan fydd cyllid cyhoeddus dan bwysau anhygoel, byddwn yn gwneud i arian cyhoeddus fynd ymhellach drwy gyfateb pob £1 a fuddsoddir mewn adeiladu tai cymdeithasol newydd. Mae cymdeithasau tai eisoes wedi ysgogi buddsoddiad cyhoeddus i ddarparu £3bn o fuddsoddiad preifat a gaiff ei wario yn rhai o gymunedau mwyaf amddifadus Cymru – bwriadant gynyddu’r buddsoddiad hwnnw gan £1bn arall dros dymor nesaf y Senedd.


I gefnogi partneriaid statudol, ar adeg pan fo angen yn cynyddu mewn llawer o feysydd, bydd cymdeithasau tai yn parhau eu gwaith i atal troi allan o dai cymdeithasol rhag mynd yn ddigartrefedd drwy barhau i fuddsoddi mewn dulliau gweithredu seiliedig ar drawma a chryfhau partneriaethau lleol. Byddant yn sicrhau fod y cartrefi y mae cymdeithasau tai yn berchen arnynt yn fforddiadwy i fyw ynddynt – cyhoeddi polisïau rhent lleol a ddatblygwyd mewn cysylltiad â thenantiaid a phartneriaid eraill gyda fforddiadwyedd a gwerth am arian yn greiddiol iddynt. Mae’r pandemig hefyd wedi dangos anghydraddoldeb digidol ar raddfa enfawr ac mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i sicrhau fod gan tenantiaid a chymunedau fynediad i offer a seilwaith digidol, yn ogystal â’r hyder a’r sgiliau i ddefnyddio gwasanaethau digidol.


Dyma rai yn unig o ymrwymiadau cymdeithasau tai yn Cartref, ond gwyddom mai dim ond rhan o’r cyfan ydynt. Gwyddom nad yw’r holl atebion gennym a bod ymateb effeithlon i’r her hon yn dibynnu ar i bob partner yng Nghymru – cymunedau, y trydydd sector ar sector preifat, partneriaid sector cyhoeddus a llywodraethau – ymrwymo i wireddu hyn. I wneud i’r camau hyn ar y cyd gyfri – mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarn a chefnogi eraill i wneud yr un fath.


Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad wneud llawer o ddewisiadau caled ond rydym angen rhaglen gytbwys o fuddsoddiad fydd yn sicrhau y bydd pob punt a werir yn gweithio’n galed i roi hwb economaidd, yn ogystal â budd i iechyd a llesiant y genedl gyfan a chenedlaethau’r dyfodol.


Yn neilltuol, mae angen rhaglen £1.5bn o grant tai cymdeithasol dros bum mlynedd i alluogi adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd effeithol o ran ynni, ynghyd â phecyn ysgogiad £4bn o fuddsoddiad cyhoeddus yn gweithio wrth ochr cyllid preifat i ôl-osod tai cymdeithasol i’r safon amgylcheddol uchaf erbyn 2030. Ynghyd â’r buddsoddiad cyfalaf hwnnw, mae angen dirfawr am setliad cyllid dangosol pedair mlynedd cysylltiedig â chwyddiant i gefnogi gweithgareddau i atal digartrefedd drwy’r Grant Cymorth Tai os ydym i adeiladu ar yr enillion cymdeithasol a sicrhawyd eisoes.


Mae’r pandemig hefyd wedi dangos bregusrwydd y system gofal a chymorth cymdeithasol presennol. Bu cymdeithasau tai yn ddeheuig wrth helpu i gefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain drwy ddarparu gwasanaethau cymorth ac addasu’r cartrefi fel sydd angen. Ond nawr, yn fwy nag erioed, mae angen diwygio’r system gofal a chymorth cymdeithasol fel mater o frys. Mae angen i’r Llywodraeth roi blaenoriaeth i fwy o fuddsoddiad a gaiff ei yrru gan werth yn hytrach na chost, i sicrhau gwell deilliannau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, y gweithlu a gwerth cymdeithasol i gymunedau.


Dyma rai o blith y syniadau y rhoddir sylw iddynt yn ein maniffesto Cartref ond gwyddom nad yw syniadau yn ddim heb gynlluniau ymarferol a chadarn a gefnogir gan yr arweinyddiaeth a’r awydd i wneud iddynt ddigwydd. Dyna pam y byddwn yn gynnar y flwyddyn nesaf yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Llywodraeth i gyd-fynd â’r maniffesto, fydd yn gosod y camau gweithredu manwl i roi’r syniadau hyn ar waith. Rwy’n gryf o’r farn y gall y syniadau hyn, os cânt eu gweithredu, feithrin adferiad o drawma y pandemig sy’n rhoi blaenoriaeth i gartref gweddus a fforddiadwy fel y man dechrau ar gyfer bywydau a lleoedd llwyddiannus.


Cafodd maniffesto ‘Cartref’ CHC ei ddatblygu ar y cyd gyda bron 100 o sefydliadau, yn cynnwys cymdeithasau tai a phartneriaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru. Defnyddir hashnodau #CaruCartrefi #HereForHomes ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae mwy o wybodaeth ar gael yma.