Diogelu data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GPDR): 7 newid busnes y mae gwir angen i chi eu gwneud
1. Adolygu...
Adolygu pa ddata personol yr ydych yn ei gasglu, lle caiff ei gadw, gyda phwy yr ydych yn ei rannu a phryd y caiff ei ddileu.
2. Datblygu...
Datblygu strategaeth data. Ystyried pa ddata rydych wirioneddol angen ei gadw ac am ba mor hir. Cynnal asesiad risg ar risgiau torri data a'r hyn y gallwch ei wneud i leihau hynny. Datblygu cynllun am sut y byddwch yn delio gyda thoriad data. a sut y byddwch yn asesu os oes angen hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am y toriad.
3. Ystyried...
Ystyried os oes angen i chi benodi Swyddog Diogelu Data. Hyd yn oed os nad yw'n ofynnol i chi wneud hynny, aseswch os byddai'n fanteisiol rhoi cyfrifoldeb i unigolion penodol am faterion cydymffurfiaeth data.
4. Diweddaru...
Diweddaru eich polisi preifatrwydd i gydymffurfio gyda gofynion gwybodaeth ychwanegol y GDPR, a gwneud yn siŵr ei fod ar gael ar eich gwefan.
5. Gwirio...
Gwirio sut i gael cydsyniad a diweddaru eich telerau ac amodau. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau ar hyn o bryd yn casglu data marchnata gan unrhyw unigolion y maent yn delio ag ef sy'n methu "optio allan". Yn y dyfodol mae'n rhaid i'r caniatâd fod yn "eglur, wedi'i rhoi yn rhydd ac yn seiliedig ar wybodaeth". Dylid diweddaru eich telerau ac amodau i gynnwys fod yn rhaid yr unigolion optio i mewn i gael eu hychwanegu at eich cronfa ddata.
6. Glanhau...
Glanhau eich cronfa ddata. Os ydych wedi dibynnu ar ganiatâd optio-allan neu "oddefol" i gysylltu â phobl yn y gorffennol (e.e. ar gyfer dibenion marchnata), mae'n rhaid i chi gael caniatâd o'r newydd gan y rhai sydd ar eich cronfa ddata bresennol. Gorau po gyntaf y gwneir hyn.
7. Addysgu a Hyfforddi...
Addysgu a hyfforddi eich staff ar y GPDR. Gwnewch yn siŵr fod eich staff yn gwybod beth yw eich polisïau mewnol, at bwy i fynd gyda phroblem data, neu sut mae angen iddynt ddelio gyda cheisiadau i gael eu hanghofio a cheisiadau am fynediad pwnc.
I gael mwy o wybodaeth ar ddiogelu data neu'r GDPR, cysylltwch â Stephen Thompson ar 029 2082 9100 neu dewch draw i sesiwn Stephen yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC y mis nesaf. Archebwch eich lle ar ein gwefan: https://chcymru.org.uk/cy/events/view/2017-one-big-housing-conference.