Jump to content

26 Chwefror 2015

Dim taliad i Aelodau Byrddau Cymdeithasau Tai Cymru

Yng Nghynhadledd Llywodraethiant CHC, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, nad yw o blaid egwyddor talu i aelodau byrddau cymdeithasau tai. Ar ôl ymgynghori gyda'n haelodau, dywedodd y Gweinidog 'er ei bod yn amlwg fod barn gref o blaid a hefyd yn erbyn, nid oedd tystiolaeth glir i ddweud y byddai taliadau yn denu gwell aelodau o well calibr i'r sector. Dywedodd y Gweinidog hefyd, ar adeg pan fo adnoddau'n brin, teimlai nad hwn oedd yr amser cywir i ystyried talu i aelodau bwrdd.

Wrth siarad am gyhoeddiad y Gweinidog, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC:

"Fel rhan o'r Cytundeb Cyflenwad Tai gyda Llywodraeth Cymru, buom yn gweithio ar ddiwygio Atodlen 1 sy'n cynnwys galluogi cymdeithasau tai i dalu i aelodau bwrdd os dymunant. Soniodd nifer o'n haelodau, mewn amgylchedd cystadleuol, y byddai'r gallu i dalu aelodau bwrdd (fel y'i cynhwysir o fewn canllawiau ein Cod) yn ddull defnyddiol arall i ddenu cymysgedd o sgiliau o amgylch y bwrdd i wynebu'r amgylchedd heriol sydd o'n blaenau.

"Rydym yn siomedig iawn fod y Gweinidog wedi cyhoeddi na fydd yn galluogi cymdeithasau tai, sy'n sefydliadau annibynnol, i wneud y dewis hwnnw eu hunain. Ein dymuniad yw i gymdeithasau tai gael eu cydnabod fel y sefydliadau a gaiff eu llywodraethu orau yng Nghymru a heddiw rydym wedi lansio ein Cod Llywodraethiant a'n hymgyrch Dewch ar y Bwrdd, sy'n elfennau allweddol wrth gyflawni'r amcan hwn."