Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a Deddf Hawliau Rhentwyr - Newidiadau i'r contract
Ar 1 Mehefin 2026 daeth newidiadau i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) – a gyflwynwyd gan Ddeddf Hawliau Rhentwyr Llywodraeth y DU – i rym ar gyfer pawb sy’n rhentu anheddau cymdeithasol a phreifat yng Nghymru. Bu Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio gyda TPAS Cymru i helpu aelodau i ddeall y newidiadau hyn.
Beth sy’n newid?
Mae’n rhaid i bob contract meddiannaeth yn awr gynnwys telerau sylfaenol newydd sy’n eglur yn gwahardd landlordiaid rhag gwahaniaethu yn erbyn tenantiaid ar y sail eu bod yn hawlio budd-daliadau neu fod ganddynt blant yn byw gyda nhw neu’n ymweld â nhw. Bydd y telerau hyn yn weithredol ar gyfer pob contract presennol a chontract newydd – nid oes angen i denantiaid wneud dim i’w cadarnhau.
Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
Ychydig iawn o wahaniaeth ymarferol a wnaiff y newidiadau hyn o ddydd i ddydd ar gyfer y rhan fwyaf o denantiaid. Mae landlordiaid cymdeithasol eisoes yn ymroddedig i drin pobl sy’n hawlio budd-daliadau a theuluoedd gyda phlant yn deg. Lle mae cyfyngiadau ar blant mewn eiddo yn bodoli am resymau dilys ar hyn o bryd – tebyg i orlenwi, iechyd a diogelwch, y math o lety neu ddarpariaeth tai arbenigol – mae’r cyfyngiadau hyn yn debygol o aros yn eu lle dan y ddeddfwriaeth newydd, cyn belled â’u bod yn ddull cymesur o gyflawni nod ddilys.
Cyfathrebu gyda tenantiaid
Mae CHC a TPAS wedi cynhyrchu canllawiau pellach ar y newidiadau, a gafodd eu ffurfio gan grŵp cynghori TPAS ar gyfranogiad tenantiaid.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu taflen wybodaeth i denantiaid a Chwestiynau Cyffredin mewn Saesneg syml, sydd ar gael ar Hyb Tai CHC, ac rydym yn annog aelodau i rannu neu addasu’r rhain ar gyfer eu cylchlythyrau, eu gwefannau, a’u cyfathrebiadau eu hunain â thrigolion.