Jump to content

09 Hydref 2020

“Dechrau wrth eich traed” - Pam nad oes angen ofni ymchwil

“Dechrau wrth eich traed” - Pam nad oes angen ofni ymchwil
Sefydlodd Rob Rowlands ei gwmni, Rob Rowlands Research, i helpu pobl a sefydliadau i ddod o hyd i’r wybodaeth orau i droi syniadau ac atebion yn ffaith.


“Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn heriol a deud y lleiaf. Mae yna broblemau - hen a newydd - i’w goresgyn o hyd a syniadau i’w datblygu i chi allu symud ymlaen yn fwy effeithiol. Efallai mai eich ymateb cyntaf yw naill ai teimlo bod maint y dasg yn eich llethu a rhoi’r gorau iddi neu ddod o hyd i rywun i’w gwneud ar eich rhan. Y broblem ydi na fydd y cyntaf yn mynd â chi i unlle ac y gall yr ail, os caiff ei wneud yn anghywir, gynnig yr atebion anghywir i chi.


Beth petaech yn cymryd y sialens hon yn fwy effeithiol drosoch eich hun?


Pan ofynnwyd iddo sut yr ydych yn dod yn chwaraewr tennis gwych, dywedodd Arthur Ashe: “Cychwynnwch lle’r ydych chi. Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Gwnewch yr hyn allwch chi.” Gall dilyn yr egwyddorion hyn eich helpu i ddod o hyd i’r atebion drosoch eich hun, a phan na fyddwch chi’n gallu, ganfod yn fwy cywir ble a sut y mae angen i chi gael help rhywun arall i wneud hynny.


Felly gadewch i ni ddod o hyd i’r ateb i’r broblem honno a throi’r syniadau yn ffaith.


Cychwynnwch lle’r ydych chi


Beth ydi’r bwlch yn yr hyn yr ydych yn ei wybod?


Cyn mynd dim pellach, stopiwch. Ble’r ydych chi ar hyn o bryd? Beth sy’n gwneud y mater hwn yn broblem? Pam bod y syniad yma mor bwysig? Efallai bod hyn yn swnio’n amlwg ond mae’n cael ei anwybyddu’n aml.


Ar yr un pryd, ble ydych chi am fod? Sut mae’r “diwedd” yn edrych?


Rhwng y ddau bwynt yma mae rhywbeth ar goll sy’n eich atal rhag mynd o A i B. Dynodi’r bwlch yna yw eich cam cyntaf i ddod o hyd i atebion sy’n eich symud ymlaen, gwir ddiben ymchwil.


Beth allwch chi ei wneud i lenwi’r bwlch?


Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi


Cyn neidio i ddwyn ymgynghorwyr i mewn i wneud hyn ar eich rhan, arhoswch a meddwl yn rhesymegol am yr adnoddau sydd gennych wrth law y gallwch eu defnyddio.


Faint o wybodaeth sydd gennych yn barod a allai gynnwys yr atebion? Bydd gan lawer ohonom gyfoeth o ddata a gwybodaeth am ein heiddo, tenantiaid a’n cymunedau. A yw’r wybodaeth i ateb y cwestiynau sydd gennych ar hyn o bryd yn y data a’r wybodaeth yma? Bydd gweld beth nad yw’n ei ddweud yn eich galluogi i ganolbwyntio eich sylw ar lenwi’r bylchau yn eich gwybodaeth.


Pa adnoddau sydd gennych wrth law all ddwyn y wybodaeth sydd ar goll at ei gilydd? A allwch chi ddefnyddio staff, tenantiaid a chymunedau lleol yn well i roi a chasglu’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen trwy ddefnyddio’r hyn y maen nhw’n ei wybod ac y mae ganddyn nhw fynediad ati? Meddyliwch yn greadigol am y ffordd y gallwch chi ddarparu a chrynhoi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen gyda’ch gilydd.


A sut y gallwch chi wneud y mwyaf o offer ymchwilio am ddim neu rad sydd ar gael i hwyluso hyn. Mae offer i gasglu’r wybodaeth hon, fel arolygon ar-lein, ar gael yn rhwydd ac yn hawdd eu defnyddio.


Beth bynnag y byddwch chi’n ei ddefnyddio, mae gwybod am beth yr ydych yn chwilio yn eich galluogi i ddatblygu cynllun ymarferol ar gyfer dod o hyd iddo.


Gwnewch yr hyn allwch chi


Erbyn hyn fe ddylech fod yn teimlo ychydig yn fwy hyderus am ddod o hyd i’r atebion. Rydych yn gwybod am beth yr ydych angen chwilio ac mae gennych gynllun i fynd allan a dod o hyd iddo. Ond gair o rybudd. Yn anaml y mae atebion yn ymddangos dros nos neu heb ymdrech.


Ond os defnyddiwch chi eich cynllun clir, cymryd un cam ar y tro a pharhau i ganolbwyntio ar eich amcanion bydd y wybodaeth yn dod at ei gilydd i lenwi llawer o’r bylchau sy’n eich wynebu ar hyn o bryd.


Cymorth Doethach


Gallwch orfod addasu i wneud eich gwaith ymchwil eich hun. Bydd datblygu sgiliau allweddol yn y meysydd hyn yn fuddsoddiad cynaliadwy at y dyfodol i’ch sefydliad, eich staff a’ch cymunedau.


Hyd yn oed os na allwch chi lenwi’r holl fylchau, bydd eu cyfyngu i wybodaeth benodol sydd ar goll yn gadael i chi gomisiynu help yn ddoethach gan ymgynghorwyr a gwneud gwell defnydd o adnoddau cyfyngedig.”


Archebwch eich lle ar y cwrs hyfforddi gyda Rob yma.