Jump to content

11 Mawrth 2019

Dathlu diwrnod rhyngwladol y merched

Dathlu diwrnod rhyngwladol y merched
Serena Jones yw Cyfarwyddydd Cartrefi, Gwasanaethau a Chymunedau Grŵp Tai Coastal. Mae'n rhannu ei meddyliau gyda ni ar amrywiaeth yn y gweithle.


Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod, diwrnod sydd wedi'i wreiddio yn etholfraint menywod a sosialaeth. Mae'n ŵyl genedlaethol mewn llawer o wledydd ac mewn eraill mae'n ddiwrnod o brotest neu ddathlu benywdod. Er y bu cynnydd deddfwriaethol sylweddol mewn hawliau menywod dros y 100 mlynedd ddiwethaf, mae canfyddiad fod menywod yn awr yn hollol gyfartal gyda dynion. Dydyn ni ddim. Mae menywod yn dal i gael llai o gyflog na dynion, mae'n dal i fod fwy o ddynion na menywod yn y rhan fwyaf o ystafelloedd bwrdd a thimau gweithredol, rydym yn parhau i fod yn bennaf gyfrifol am fagu plant ac yn profi'n sylweddol fwy o gam-drin domestig na dynion. Mae llawer o gynnydd yn dal ar ôl.


Yn fy ngyrfa yn y sector tai, rwyf wedi gweld a phrofi'r ffyrdd niferus y mae dynion a menywod yn ymddwyn yn wahanol yn gweithlu. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i ddysgu, ehangu fy ngwybodaeth a datblygu fy sgiliau ac wrth wneud hynny rwyf wedi bod yn onest am y meysydd rwy'n credu bod angen i mi eu gwella. Yn gynnar yn fy ngyrfa rheoli, rwy'n cofio sôn wrth gydweithiwr am yr adborth a roddais i fy mos amdanaf fy hun yn fy ngwerthusiad blynyddol ac edrychodd arnaf yn gegrwth. Dywedodd nad oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i ddweud y gwir oherwydd y byddech yn cael llai o gyflog, ac roedd yn iawn. Roedd yn union gyfartal â fi yn y gweithle, a chafodd ddyfarniad cyflog uwch na fi oherwydd y gwerthusiad hwnnw. Roedd honno'n foment 'aha' i fi; oeddwn i'n creu fy nenfwd gwydr fy hunan drwy beidio chwarae'r gêm yn iawn? Roeddwn yn teimlo fel petai neb wedi dweud y rheolau wrthyf ond roedd hefyd wrthdaro - roeddwn eisiau parhau'n ddiffuant ac onest ond doeddwn ddim eisiau bod dan anfantais oherwydd hynny. Addunedais i wneud popeth a fedrwn i fod y math o fos oedd yn ei gwneud yn iawn i siarad am anghenion datblygu a pheidio cosbi pobl am wneud hynny. Yn ddiddorol, wnes i ddim cwestiynu'r system werthuso ei hunan ac rwyf nawr wedi dod i sylweddoli fod honno'n wastraff enfawr o amser - yn arbennig os yw wedi ei chysylltu gyda thâl cysylltiedig â pherfformiad. Mae'n ddyfais berffaith os ydych eisiau parhau anghydraddoldeb a cholli tri mis o gynhyrchiant bob blwyddyn tra bod pawb yn ymladd am eu graddiad. Os ydych eisiau i bobl wneud gwaith da, astudiwch sut mae'r gwaith yn gweithio, gwrando ar yr hyn sy'n cyfrif i'r bobl sy'n manteisio ohoni a'i dylunio o amgylch gwerth a diben.


Profiad rhyweddol eraill a gefais drwy fy ngyrfa yw canlyniad fy anallu patholegol bron i oddef anghyfiawnder neu anghydraddoldeb a fy ffocws di-baid ar wella'n barhaus. Mae hyn wedi golygu fy mod wedi clecian rhai cewyllau, ac, yn rhyfedd ddigon, dynion yw mwyafrif helaeth y rhai sydd wedi eu clecian fwyaf. Gwn am (rai) o'r llysenwau a gefais fel canlyniad i fy llu o heriau cadarn na fyddant yn eu hailadrodd yma ond rwy'n siŵr y gallwch eu dychmygu. Gall menywod cryf sy'n llafar ac heb fod yn ofni dal eraill i gyfrif ddisgwyl amser caled ar adegau ac nid wyf i yn unrhyw eithriad i hyn. Yr hyn y gobeithiaf y mae pobl hefyd yn ei weld yw fy mod yn dal fy hunan i gyfrif hefyd ac fy mod yn agored am gamgymeriadau pan wyf yn eu gwneud. Rwy'n bell o fod yn berffaith. Roedd rhan o fy ngyrfa, yn Llundain a hefyd yng Nghymru, yn ymwneud â chynhyrchu data perfformiad, dadansoddi perfformiad ac adrodd i uwch dimau a byrddau. Mae gen i brofiad o fynd ag adroddiadau perfformiad i'r ystafell fwrdd a gwylltio uwch reolwyr i'r pwynt lle roeddent yn gweiddi fod yn rhaid fod y data yn anghywir neu'n berwi'n ddistaw gyda dicter ataf am ddatgelu'r stwff yr oeddent yn ceisio ei guddio. Mae llawer o achlysuron pan fu'n rhaid i mi gael nerfau o ddur i ddelio gyda'r mathau yma o sefyllfaoedd ond roedd fy ateb bob amser yr un peth - eich data chi yw e, trwsiwch e. Fel y dywedodd Deming: "yn Nuw yr ymddiriedwn, mae'n rhaid i bawb arall ddod â data".


Rwyf hefyd eisiau codi llais dros ddynion ar y diwrnod hwn hefyd oherwydd y gwir yw: mae cyfeillion yn wirioneddol gyfrif. Fel aelod sy'n cario cerdyn o'r gymuned LGBTQ (oes, mae gennym gardiau go iawn - wyddech chi ddim?), rwy'n gwerthfawrogi bob dydd y ffordd mae llawer o bobl heterorywiol yn arddangos eu cefnogaeth a bod newid go iawn yn digwydd pan fyddwn yn cydweithio. Mae pawb ohonom yn manteisio o gyfoeth ac egni amrywiaeth (yn cynnwys niwroamrywiaeth), nid dim ond y rhai ohonom gyda 'nodweddion gwarchodedig'. Pan edrychaf o fy amgylch ar argyfwng gwrywedd gwenwynllyd, y cyfraddau brawychus o hunan-laddiad ymysg dynion a'r anhawster a gaiff llawer o ddynion wrth rannu eu hofnau, ansicrwydd a phryderon, rwy'n dal rhagfarn ar sail rhyw yn gyfrifol i raddau helaeth. Mae'r syniad fod gan ddynion a menywod rolau i'w cyflawni yn cyfyngu pawb ohonom, ac rwyf yn cael fy nghalonogi'n fawr gan y genhedlaeth o bobl ifanc sy'n bwrw y normau cymdeithasol hyn o'r neilltu ac yn gwrthod bod yn rhan o'r deuaidd hwnnw. Hunaniaethau rhywedd hylif, niwtral ac anneuaidd yw iteriad mwyaf cyffrous ein cyfnod ac er y gwrthwynebiad presennol a ddangosir at bobl traws (yn bennaf fenywod traws) gan nifer fach o ffeminyddion asgell dde uchel eu cloch, mae'n glir i mi fod pethau'n newid a fod bod ar ochr gywir hanes yn cyfrif lawn gymaint nawr ag oedd ar gyfer lleiafrifoedd eraill gorthrymedig drwy gydol hanes.


Efallai eich bod yn tybio beth sydd gan hyn i gyd i'w wneud gyda thai cymdeithasol, Wel, fel sefydliadau gyda diben cymdeithasol, mae'n bwysig bod yn fyw ac effro i effaith rhagfarn ar sail rhyw ar fenywod a dynion yn ogystal ag effeithiau trawsffobia a homoffobia. Yn yr un modd, os ydym yn ddall i effaith hiliaeth, anoddefgarwch crefyddol neu unrhyw fath arall o wahaniaethu neu ragfarn, byddwn yn methu bod yn gyflogwyr da a byddwn yn methu gwasanaethu dinasyddion a chymunedau'n effeithlon. Mae'n rhaid i ni fod yn rhagweithiol wrth herio ein tueddiadau a'n tybiaethau ein hunain, gwrando i ddeall beth sy'n bwysig i bobl a bod yn ofalus i beidio tynnu eu hasiantaeth a'u hannibyniaeth eu hunain oddi ar bobl yn y broses.


I glywed mwy am bwysigrwydd amrywiaeth yn y sector tai, gwrandwch ar bennod ddiweddaraf podlediad Trafod Tai.