Jump to content

02 Mawrth 2022

Datganiad: Cyllideb Cymru 2022/23

Gweler y datganiad isod gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, mewn ymateb i gyllideb derfynol llywodraeth Cymru.

“Mae’n iawn bod y gyllideb derfynol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ymhellach â’r argyfwng cost byw a newid hinsawdd. Rydym hefyd yn rhoi croeso cynnes i’r cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun Tir Tai, yn ogystal â’r buddsoddiad oedd eisoes yr uchaf erioed mewn tai cymdeithasol. Mae hyn yn anfon neges gref a chlir o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector mewn adeiladu cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy ar draws y wlad dros gyfnod y Senedd hon. Dyma’r bleidlais o hyder yr oeddem yn edrych amdani.”