Jump to content

03 Mehefin 2025

Datganiad CHC: Arolwg mini pulse TPAS

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 3 Mehefin 2025

Mae TPAS Cymru heddiw wedi cyhoeddi eu canfyddiadau Mini Pwls Tenantiaid ar newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i Safonau Ansawdd Tai Cymru, sy’n cynnwys gofynion newydd am sut y dylai landlordiaid cymdeithasol ymateb i adroddiadau am beryglon.

Mewn ymateb dywedodd Hayley Macnamara, Arweinydd Polisi Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae cymdeithasau tai yn hollol ymroddedig i ddarparu cartrefi ansawdd uchel a chyrraedd y safonau uchel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mewn blynyddoedd diweddar, bu cymdeithasau tai yn rhagweithiol wrth wella eu prosesau atgyweirio a thrin cwynion, gan weithredu’r dulliau sy’n gweithio orau ar gyfer eu cymunedau.

Croesawn y wybodaeth werthfawr o adroddiad mini pwls TPAS. Mae adborth gan denantiaid, ynghyd ag adborth cymdeithasau tai, yn llywio ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymroddedig i gydweithio i ddatblygu safon gwasanaeth newydd sy’n rhoi mwy o dryloywder, cysondeb ac yn cefnogi darparu gwasanaethau landlord effeithlon.

Os oes gan unrhyw un yn byw mewn cartref cymdeithas tai broblem gyda lleithder neu lwydni, neu unrhyw broblem arall yn ymwneud â chyflwr gwael, rydym yn eu hannog i siarad gyda’u landlord fel mater o flaenoriaeth. Mae ganddynt dimau arbennig yn eu lle i ddatrys problemau a sicrhau bod cartrefi yn ddiogel a chysurus.”