Datblygiad cartrefi modwlar newydd yn helpu pobl leol yn ôl i waith
Ni fu ble’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae maniffesto Cartref yn rhoi sylw i rai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i adeiladu cymunedau iachach, mwy llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell, ynghyd ag ymrwymiad i gyrraedd targedau dim carbon. Rhan o’r ymrwymiad hwnnw yw creu mwy o swyddi a gwella sgiliau a hyfforddiant.
Mae United Welsh yn cefnogi pobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir yn ôl i waith, drwy gyflogi wyth o hyfforddeion i ymuno â’r tîm yn adeiladu cartrefi modwlar newydd yng Nghaerffili. Darllenwch fwy:
“Yn dilyn ymgyrch recriwtio i gefnogi pobl a fu’n ddi-waith am gyfnod hir a chyn aelodau o’r lluoedd arfog i ddychwelyd i’r gwaith, mae wyth o hyfforddeion wedi dechrau ar y safle i helpu adeiladu 19 cartref yn defnyddio dull adeilad modwlar Beattie Passive.
“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerffili a Kingfisher Developments ar safle Cwm Ifor a dderbyniodd gyllid a chefnogaeth o Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i gyflenwi cartref gyda llawer o insiwleiddiad, effeithiol o ran ynni.
“Rydym yn falch iawn i gefnogi’r hyfforddeion i safle Cwm Ifor; chwech ohonynt yn denantiaid United Welsh.
“Mae’r lleoliadau hyn yn helpu pobl leol i ddychwelyd i waith gan ddysgu sgiliau arloesol sydd ag ardystiad y gellir mynd â nhw i yrfaoedd adeiladu newydd yr hyfforddeion.
“Mae Passivhaus yn safon cydnabydddedig ar ar gyfer adeiladau isel o ran ynni. Drwy ddefnyddio insiwleiddiad perfformiad uchel a gwneud adeilad heb unrhyw ddrafftiau, mae’n effeithlon wrth ddileu colli gwres gan greu adeilad gydag ychydig iawn o effaith ar yr amgylchedd.
“Yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith newydd gwerthfawr, mae datblygiad Cwm Ifor hefyd yn galluogi Celtic Horizons, is-gwmni gwaith trwsio a chynnal a chadw United Welsh, i ddysgu dulliau newydd o adeiladu fydd yn ein helpu i gyflawni ein cynlluniau o ddarparu llawer mwy o gartrefi effeithiol o ran ynni yn y blynyddoedd i ddod.”
Gan ddefnyddio Ffatri Hedfan Beattie Passive mae Celtic Horizons yn adeiladu yng nghanol Caerffili, gan godi cartrefi Passivhaus mewn ffordd effeithol a chyflym.
Gellir datblygu adeiladau modwlar mewn cyfnod byrrach na dulliau adeiladu traddodiadol ond mae hefyd fuddion hirdymor gwirioneddol ar gyfer y tenantiaid sy’n symud i mewn.
Ychydig o ynni fydd ei angen i wresogi neu oeri’r cartrefi hyn, gan olygu biliau ynni is ac allyriadau carbon isel ar gyfer cymuned wyrddach.
Darganfyddwch mwy am maniffesto Cartref yma