Jump to content

24 Gorffennaf 2026

Darpariaeth 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030

Darpariaeth 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030

Ddydd Llun 13 Gorffennaf gosododd Llywodraeth Cymru darged i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol ychwanegol erbyn 2020.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio y cyflawnir y targed hwn drwy ffocws ar ddarpariaeth gyda sefydlu Unnos.

Bydd Unnos, corff datblygu cenedlaethol newydd, yn cefnogi datgloi rhwystrau i adeiladu, yn cynnwys dyrannu tir a symleiddio prosesau cynllunio.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Stuart Ropke, ein Prif Swyddog Gweithredol:

"Mae cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru y bydd yn darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn mis Mawrth 2030 yn ddatganiad beiddgar ac uchelgeisiol o fwriad i roi diwedd ar yr argyfwng tai yng Nghymru. 

Fe wnaeth ein sector gyflenwi 75% o’r tai fforddiadwy yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf. Mae cymdeithasau tai yn sefyll yn barod i gyflenwi.

Fodd bynnag, i droi uchelgais yn realaeth, mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu ar frys i chwalu’r rhwystrau sy’n atal cyflenwi. Rydym angen gwarant cyllid hirdymor, penderfyniadau cynllunio cyflymach a datrysiadau ar unwaith i dagfeydd amgylcheddol fel niwtraliaeth maethion sy’n achosi oedi wrth gyflenwi cartrefi y mae cymaint o angen amdanynt.

Gan gydweithio, gallwn drwy adeiladu’r cartrefi mae Cymru eu hangen i symud o argyfwng tai i adferiad tai."

Gallwch ddarllen datganiad y Gweinidog yma.