Jump to content

21 Awst 2019

Cynon Taf yn teimlo’n falch

Cynon Taf yn teimlo’n falch
Mae Charysse Watson yn Swyddog Cynhwysiant Ariannol gyda Cymdeithas Tai Cynon Taf, ac mae’n dweud wrthym beth a wnaethant fel sefydliad i ddathlu mis Pride.


“Eleni, roeddem eisiau gwneud mwy na dim ond newid ein logo i gefnogi mis Pride. Dyna pam y daeth ein holl staff ac aelodau Bwrdd at ei gilydd ym mis Gorffennaf i ddathlu Pride ar 50fed pen-blwydd terfysg Stonewall.


Fe wnaethom ganolbwyntio ar hanes y mudiad, gan ddangos fideo sy’n cyfleu’r digwyddiadau yn nhafarn y Stonewall hanner canrif yn ôl. Fe wnaethom hefyd ei ddefnyddio i hyrwyddo ffigurau allweddol yng Nghymru sy’n rhan o’r gymuned LGBTQ+; gan roi sylw i’w llwyddiannau ledled Cymru ac ar draws pob diwydiant yn cynnwys tai, chwaraeon ac adloniant.


Rydym yn llwyr gefnogi ymgyrch “Get Over It” Stonewall sy’n helpu i fynd i’r afael â bwlio homoffobig, deu-ffobig a thrawffobig yn yr ystafell ddosbarth. Gwyddom o’n hymgyrch y caiff 45% o ddisgyblion LGBT eu bwlio yn ysgolion Cymru, felly roedd taflenni a phosteri’r ymgyrch ar gael i’w staff eu darllen a mynd â nhw adre gyda nhw i hyrwyddo’r ymgyrch tu allan i’r swyddfa ac o amgylch y gymuned leol.


Cymerodd pawb ran a dathlu’r awyrgylch gadarnhaol gan fwynhau mintiau lliw enfys, Skittles, bwffe a detholiad o datŵs dros dros dro i nodi’r achlysur.


Efallai mai hwn oedd y digwyddiad Pride cyntaf i Gynon Taf ei gynnal ond fe wnaeth pawb adael yn teimlo wedi eu hysbrydoli. Rydym yn llawn uchelgais am ddigwyddiad mwy y flwyddyn nesaf lle gall ein holl aelodau, tenantiaid a’r gymuned leol gymryd rhan – felly cadwch eich llygaid ar agor!”


[gallery size="medium" ids="http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2019/08/Pride-Group1.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2019/08/Rainbow-staff.jpg|,http://chcymru.org.uk/comms/CHC-Cartref-CYM/wp-content/uploads/2019/08/65682736_2855518837808342_8732103232177831936_n-1.jpg|"]