Cynnwys y rhai a gafodd eu hallgau’n ariannol – yswiriant cynnwys cartref
Mae allgau ariannol yn digwydd pan nad oes gan bobl fynediad i wasanaethau ariannol prif ffrwd neu’r gallu i reoli eu harian yn annibynnol. Gall unrhyw un ganfod eu hunain wedi eu hallgau’n ariannol ar wahanol adegau ac am wahanol resymau yn eu bywyd. Yn ogystal â byw ar incwm isel, gall tenantiaid hefyd fod ag amrywiaeth o anghenon cymhleth yn cynnwys iechyd meddwl, ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod yn anllythrennog yn ddigidol.
Nid oes gan lawer o denantiaid unrhyw incwm neu gyfrif banc; mae eraill yn ymdopi gyda thalu biliau ond yn cael trafferthion yn cael mynediad i wasanaethau ariannol prif ffrwd oherwydd eu hincwm, statws cyflogaeth neu sgôr credyd.
Mae dyled yn broblem fawr mewn allgau ariannol, gan ei fod nid yn unig yn effeithio ar incwm pobl a’u sgôr credyd a mynediad i gyllid prif ffrwd, ond hefyd eu hiechyd, hyder a rhwydweithiau cymdeithasol.
Mae’r system bresennol yn golygu ei bod yn anodd iawn i rai pobl gael eu cynnwys yn ariannol. Er enghraifft mae banciau yn aml angen dau ddull adnabod a biliau cyfleustodau i agor cyfrif banc. Nid oes gan bawb gyfrif banc oherwydd y gall y banc fod wedi eu gau, neu efallai na fu’n rhaid i rai pobl erioed agor un.
Problem arall yw nad oes gan y rhan fwyaf o bobl mewn tai cymdeithasol yswiriant cynnwys cartref, felly pe byddent yn dioddef tân, llifogydd neu ladrad, yn aml byddant yn defnyddio eu hincwm i gael eitemau yn lle, yn hytrach na thalu rhent. Mae allgau ariannol yn effeithio ar gyllid unigol pobl a hefyd yn cael sgil-effaith ar sectorau eraill fel iechyd, troseddu a thai.
Mae’n bwysig fod pob pob tenant tai cymdeithasol yn cael cyfle i gael mynediad i yswiriant cynnwys cartref.
Datblygwyd Cynllun Yswiriant Cynnwys Cartref Thistle i gynorthwyo’r rhai sydd wedi eu hallgau yn ariannol, gan ddarparu datrysiad cynnyrch yswiriant cynnwys cartref i denantiaid landlordiaid tai cymdeithasol ac awdurdodau lleol.
Rhai o’r manteision i denantiaid:
- Gwneud cais dros y ffôn neu lenwi ffurflen gais (mae pecynnau cais electronig ar gael)
- Dim angen cyfrif banc.
- Dim cwestiynau ariannol fel rhan o’r meini prawf derbyn.
- Dim angen cloeon arbennig ar ddrysau neu ffenestri (dim ond drws blaen y gellir ei gloi).
- Opsiynau talu rheolaidd hyblyg (mae premiwm bob bythefnos a phob mis yn cynnwys tâl trafodiad).
- Yn cynnwys lladrad, difrod dŵr, tân a llawer mwy o risgiau i aelwydydd.
I gael mwy o wybodaeth ar Gynllun Yswiriant Cynnwys Cartref Thistle cysylltwch â:
Ffôn: 0345 450 7288
E-bost: myhome@thistleinsurance.co.uk
E-bost: Kevin.Fox@thistleinsurance.co.uk
Gwefan: www.thistlemyhome.co.uk
Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Thistle Insurance Services Ltd. Caiff Thistle Insurance Services Limited ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 210419.