Jump to content

20 Gorffennaf 2017

Cynllunio ar gyfer 20,000 o gartrefi - Yr hyn rydym yn ei wneud a pham

Cynllunio ar gyfer 20,000 o gartrefi -  Yr hyn rydym yn ei wneud a pham

Heddiw rydym wedi cyhoeddi papur gwybodaeth, mewn cysylltiad â Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) a'r Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr (FMB), gyda'r nod o dynnu sylw at nifer o syniadau adeiladol a fyddai'n galluogi aelodau ein gwahanol gyrff i oresgyn problemau yn y system cynllunio. Cafodd y papur ei rannu gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet hynny a all ddylanwadu ar y ffordd y gweithiwn, yn ogystal â gydag unigolion allweddol eraill yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff eraill cysylltiedig.


Er mwyn cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi, a gytunwyd fel rhan o gytundeb CHC gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn glir fod angen i'n haelodau fedru datblygu cartrefi’n gyflym a heb rwystrau diangen. Ysgrifennwyd ein papur gwybodaeth yn seiliedig ar y syniadau a roddodd ein haelodau am sut y gallwn oresgyn rhai o'r problemau yn y system.


Cymerwch fater tir er enghraifft: yn ôl yr hyn a ddywedodd un o'n haelodau ar gyfer y papur hwn, 'i dai fod yn fforddiadwy i'r bobl sy'n byw ynddo, mae'n rhaid iddynt fod yn fforddiadwy i'w datblygu' felly mae gallu ein haelodau i fedru cael mynediad i dir am bris fforddiadwy yn hollbwysig. Mae profiadau aelodau ar y mater hwn wedi amrywio, gyda rhai'n dweud wrthym fod rhai awdurdodau lleol wedi gwrthod yn llwyr ystyried amgennau i gyflawni'r prisiant ariannol uchaf posibl. Mae ein hargymhellion ar y pwynt hwn yn cynnwys yr awgrym y dylid rhoi ystyriaeth i'r gwerth cymdeithasol y gall tir sector cyhoeddus ei gyflawni wrth osod pris ar gyfer ei werthu. Yn ôl aelodau, ar hyn o bryd mae tîm Stadau awdurdodau lleol dan bwysau i gael y pris uchaf posibl ar gyfer gwerthiant tir, a all olygu bod cymdeithasau tai'n cael eu prisio allan gan golli gwerth cymdeithasol y gallent ei roi (drwy, er enghraifft, fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd lle maent yn berchen eiddo, rhoi mynediad i hyfforddiant ar gyfer eu preswylwyr, neu, yn wir, adeiladu i safon ansawdd gofynnol). Drwy gyflwyno mesur lle caiff gwerth cymdeithasol ei gydnabod, byddai ein haelodau'n gallu cystadlu'n well, gan arwain at ddarparu nifer uwch o dai cymdeithasol.


Mewn rhannau eraill o'r papur mae ymagweddau adeiladol at amrywiaeth o faterion, o bryderon am sut mae trefniadau Adran 106 yn llesteirio cymdeithasau tai (galwn am fwy o gysondeb ac am i gymdeithas tai gael eu cynnwys ar gam llawer cynharach yn y broses) i fater sylfaenol diffyg capasiti o fewn timau cynllunio awdurdodau lleol, sydd wedi dioddef llawer oherwydd llymder (amcangyfrifir iddynt golli 53% o gapasiti).


Bydd CHC a'n partneriaid yn defnyddio'r papur gwybodaeth fel sylfaen i drafodaethau yn y dyfodol am y systemau cynllunio a chaffael tir, gyda llygad ar ddiwygiadau arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru gan wybod y gallwn, drwy fynd i'r afael mewn modd adeiladol â'r prif rwystrau i'r ffordd bresennol o weithio, gyflymu cyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi.


Hugh Russell
– Swyddog Polisi, CHC