Jump to content

10 Chwefror 2021

Cynhwysiant Digidol ar gyfer Tenantiaid Gwarchod

Cynhwysiant Digidol ar gyfer Tenantiaid Gwarchod

Ni fu lle’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn
byw. Mae maniffesto Cartref yn tynnu sylw at rhai o’r heriau allweddol
sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai wedi ymroi i weithio law yn
llaw gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu cymunedau iachach a mwy
llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell, ynghyd ag ymrwymiad i gyflawni
targedau dim carbon. Ar adeg pan fo cyrchu gwasanaethau iechyd, siarad
gyda pherthnasau a chyfeillion, gweithio neu gael mynediad i addysg i
gyd yn digwydd ar-lein, mae cysylltiad rhyngrwyd cyflym a dibynadwy yn
hanfodol. Dylai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad roi mesurau ar
waith i ddod ag allgau digidol i ben.


Mae gan gymdeithasau tai eu rhan i’w chwarae ac maent yn
sefyll yn barod i gefnogi. Mae Trivallis wedi gweithio gyda Cymunedau
Digidol Cymru i gynyddu hyder preswylwyr cynlluniau cartrefi gwarchod
wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol. Darllenwch fwy:


“Mae cyfnodau clo oherwydd pandemig COVID-19 wedi gweld pobl yn
dibynnu mwy nag erioed ar dechnoleg ddigidol er mwyn cadw mewn
cysylltiad. Gyda’r cyfyngiadau ar waith yn rhwystro pobl rhag dod at ei
gilydd, ni fedrai teuluoedd gwrdd wyneb yn wyneb ac roedd yn rhaid
iddynt addasu i alwadau fideo a siarad dros y ffôn i gadw mewn
cysylltiad.


“Ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â defnyddio dyfeisiau fel ffonau
clyfar, gliniaduron a llechi, nid oedd y newidiadau hyn yn broblem fawr.
Fodd bynnag, roedd llawer o rwystrau ar gyfer rhai sydd wedi arfer cadw
mewn cysylltiad mewn ffyrdd mwy traddodiadol. O beidio bod yn berchen
dyfais i fod heb fynediad i’r rhyngrwyd, roedd llawer o bobl wedi eu
hallgau’n ddigidol ac yn colli mas ar gysylltiad cymdeithasol.


“O hyn daeth y cwestiwn, sut gallwn atal ein tenantiaid rhag bod mewn risg o deimlo’n unig ac ynysig?


“Mae Trivallis wedi gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i gynyddu
hyder preswylwyr cynlluniau gwarchod wrth ddefnyddio dyfeisiau digidol.
Mae ein tenantiaid gwarchod dros 60 oed ac yn byw mewn cynlluniau ar
draws Rhondda Cynon Taf.”


Alix Howells, Swyddog Prosiect Cymunedol Trivallis fu’n trefnu’r prosiect. Dywedodd:


“Cysylltodd Cymunedau Digidol Cymru gyda ni gan feddwl y gallem helpu
tenantiaid i fanteisio o’u cynllun benthyg llechen. Ar ôl sgwrsio gyda
Lisa, Rheolwr Tai Gwarchod a Thai â Chymorth fe wnaethom gytuno i wneud
cais i’r cynllun a llwyddo i sicrhau benthyg pump llechen i denantiaid
sy’n byw yn ein cynlluniau gwarchod eu defnyddio, gan mai ar eu cyfer
nhw y caiff y prosiect ei anelu.


“Unwaith y cafodd y llechi eu dyrannu, bydd angen i denantiaid lenwi
ffurflen cytundeb lle gallwn ddyrannu’r dyfeisiau am gyfnod penodol a
theilwra’r gefnogaeth sydd ei angen, yn seiliedig ar yr unigolyn. Bydd
pob person sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn pecyn cymorth, yn
llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar ddefnyddio’r llechi i gadw mewn
cysylltiad a bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael gan Cymunedau Digidol
Cymru.


“Bydd ymestyn y cynllun yn gweld tenantiaid gwarchod sydd yn colli
mas ar hyn o bryd oherwydd diffyg mynediad yn cynyddu mewn hyder mewn
defnyddio dyfeisiau digidol ar gyfer tasgau a chysylltu gydag eraill.


“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect peilot hwn yn mynd
ymlaen gyda’n pump dyfais. Wrth symud ymlaen, gobeithiwn y bydd y
bartneriaeth yn arwain at sicrhau mwy o ddyfeisiau y gallwn eu darparu
ar gyfer eu benthyg i denantiaid, faint bynnag neu hoed neu ble bynnag
maent yn byw. Rydym eisiau galluogi pawb i gwblhau tasgau ar-lein, fel
archebu eu siopa a chael mynediad i gymorth. Yn bwysicaf oll, rydym
eisiau helpu pobl i gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid.”


Mae mwy o wybodaeth am faniffesto Cartref ar gael yma.