Jump to content

09 Ebrill 2020

Cyngor da ar weithio o bell

Cyngor da ar weithio o bell
Fel gyda llawer iawn o sefydliadau eraill ar hyn o bryd, mae holl dîm Cartrefi Cymunedol Cymru yn awr yn gweithio o adre. Dyma ein cyngor da ar weithio o bell, cadw cymhelliant a chadw’n gadarnhaol!


Rebecca Goodhand – Rheolydd Marchnata a Chyfathrebu
“Rhowch gynnig ar ‘gerdded i’r gwaith’ bob bore, hyd yn oed os mai dim ond cerdded rownd y bloc neu fynd allan i’r ardd cyn dechrau’r diwrnod gwaith yw hynny. Rwyf hefyd wedi dechrau dysgu cani’r gitâr.” – Cadwch eich llygad (a’ch clustiau) ar agor!


Bethan Proctor – Rheolydd Polisi a Materion Allanol
“Cymryd seibiant iawn amser cinio a gwneud yn siŵr eich bod yn symud oddi wrth eich desg. Peidiwch mynd i’r arfer o fwyta yn ymyl eich gliniadur – fel arall ni fyddwch yn cael unrhyw doriad yn y dydd.”


Julia Sorribes – Cymhorthydd Gwasanaethau Aelodau
“Gwneud ychydig o yoga ychydig o droeon y dydd – fel nad yw eich corff wedi crymu yn treulio cymaint o amser o flaen sgrîn. Hefyd mae dal lan yn rhithiol gyda theulu a ffrindiau yn dda i’r enaid .”


Lesley Smith – Swyddog Dysgu a Datblygu
“Cysylltu gyda phobl i weld sut maent a gwneud yn siŵr eich bod yn siarad gyda rhywun bob dydd.”


Steve Evans – Cyfarwyddydd Cynorthwyol Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
“Mae rhedeg yn wirioneddol helpu i glirio fy meddwl. Mae cymryd cyfnodau seibiant wedi’u strwythuro yn help mawr hefyd.”


Bryony Haynes – Cymhorthydd Polisi a Materion Allanol
“Rwy’n hoffi symud fy nesg o amgylch y tŷ fel y gallaf gael ychydig bach o newid yn fy nydd. Hefyd dal lan ar raglenni realaeth ar y teledu fel y gall fy ymennydd droi bant.”


Aaron Hill – Pennaeth Polisi a Materion Allanol
“Rwyf wedi gosod gorsaf ymarfer yn fy ystafell gydag offer ar fenthyg o fy nghampfa i gadw fy nghymhelliant. Rwy’n rhannu tŷ gyda phobl sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd felly mae dal lan gyda nhw yn rhoi pethau mewn persbectif i fi.”


Laura Courtney – Rheolydd Polisi a Materion Allanol
“Rwy’n dechrau’r dydd gydag ychydig o hunan-gyfeiriannu, ysgrifennu rhestr o flaenoriaethau i weithio drwyddi bob dydd. Mae gennyf hefyd blentyn 3 oed adre, felly mae rhaglenni plant a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu i gadw’r pethau negyddol bant.”


Sue Williams – Swyddog Gwasanaethau Canolog
“Nid wyf erioed wedi gweithio o gartre o’r blaen ac roeddwn yn meddwl y byddai’n anos nag a fu. Rwyf wedi gosod desg i weithio arni ac rwy’n dal i deimlo fel fy mod wedi cysylltu gyda phawb ac yn gallu helpu cydweithwyr yn yr un ffordd ag arfer. Mae garddio ac aros i wrando ar yr adar yn fy nghadw’n gadarnhaol.”


Bori Martos – Swyddog Cefnogaeth Weithredol
“Mae ymarfer yoga yn ffordd wych i gadw’n egnïol pan ydych yn gaeth i’r tŷ!”


Hayley Macnamara – Rheolydd Polisi a Materion Allanol
“Mae’n well gen i weithio o’r un ystafell fel nad wyf yn mynd â ‘gwaith’ i rannau eraill o’r tŷ. Rwyf hefyd wedi buddsoddi mewn tylinwr cefn sy’n wych i lacio straen cefn.”


Edwina O’Hart – Cyfarwyddydd Cynorthwyol Cyfathrebu a Gwasanaethau Aelodau
“Mae fy ngŵr yn dweud fy mod yn siarad rhy uchel ar y ffôn, felly bod yn ymwybodol o bobl eraill yn y tŷ a allai hefyd fod yn gweithio o gartref fyddai fy nghyngor da!”


Josh Rousen – Swyddog Creadigol Brand a Dylunio
“Cadw i drefn, yn arbennig stwff tu allan i’r gwaith. Rwy’n ceisio cymryd seibiant bob awr i symud. Mae gennyf feic ymarfer felly rwy’n mynd arno am 10 munud bob awr i fy nghadw’n egnïol. A defnyddio’r tywydd hyfryd i fynd mas am awyr iach bob dydd.”


Terryanne O’Connell - Cynorthwy-ydd Gweinyddol
“Yn ogystal â bod yn weithiwr cartref, rwyf hefyd nawr yn addysgwr cartref felly mae’r ystafell haul wedi dod yn ystafell i bawb ohonom weithio ynddi. Mae’n bwysig ein bod yn cau’r drws unwaith y bydd y diwrnod gwaith wedi dod i ben a mynd allan i’r awyr iach.”


Sarah Scotcher – Swyddog Prosiect Polisi a Materion Allanol
“Rwy’n codi yr un amser ag arfer ac yn defnyddio’r amser ychwanegol i wneud pethau o amgylch y tŷ.”


Rhea Stevens – Pennaeth Polisi a Materion Allanol
“Mae angen i mi gael trefn feunyddiol a gwneud yn siŵr fy mod yn cael egwyl cinio. Mae wedi bod mor brysur fel mai fy mhryd bwyd arferol yw bowlen o Rice Krispies – felly fy nod ar amser cinio yw ceisio gwrthbwyso hyn drwy gael plât cinio mor lliwgar ag sydd modd.


Rhian Robinson – Swyddog Digwyddiadau a Busnes
“Rwyf wedi rhoi tegell ac oergell yn yr ystafell rwyf wedi ei throi yn swyddfa. Dim ond mewn un ystafell rwy’n gweithio ac rwy’n cau’r drws unwaith mae’r diwrnod gwaith ar ben. Rwyf wrth fy modd yn edrych ar un bennod o Star Wars ar ôl y llall gyda fy mab Ben i ymlacio ar ddiwedd y dydd hefyd.”


Stuart Ropke – Prif Weithredydd
“Cefais fy anfon i weithio yn yr atig gan mod i’n siarad rhy uchel ar y ffôn. Mae angen i mi wneud yn siŵr fy mod yn cymryd seibiant rheolaidd ac yn cadw at hynny.”


Catrin Harries – Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu
“Rwyf wedi gosod amserlen ar gyfer bob diwrnod i gadw ffocws. Mae fy larwm yn canu yr un amser ag arfer, ac rwy’n codi ac ymarfer peth cyntaf i gael egni ar gyfer y dydd. Rwy’n anelu i droi’r cyfrifiadur ymlaen a bant yr un amser bob dydd a chael amser i ddarllen a siarad gyda phobl gyda’r nos.”


Will Henson – Rheolydd Polisi a Materion Allanol
“Cael babi newydd yw sut rwy’n cadw fy meddwl bant o bethau! Rwyf wedi sefydlu clwb Strava CHC fel y gallwn i gyd rannu ein hymarferion, a bydd gwobr ar gyfer yr athletydd gorau pan fyddwn yn ôl yn y swyddfa. Ar wahân i hynny, rwy’n edrych am straeon newyddion cadarnhaol bob dydd i gadw’r golau ar ddiwedd y twnnel.”


Phillipa Knowles – Cyfarwyddydd Pobl a Busnes
“Mae rhedeg yn fy helpu i fynd allan o’r tŷ. Rwy’n blocio’r amser hwnnw allan o fy nghalendr fel bod pobl yn gwybod nad wyf ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw.”