Jump to content

01 Tachwedd 2019

Cyngor Da ar Ddylunio

Cyngor Da ar Ddylunio
Nid oes gan bob tîm cyfathrebu yr adnoddau i gael dylunydd neu swyddog creadigol ymhlith eu staff, a gall hynny arwain at lif gwaith llai effeithol a chyfathrebu heb fod cystal gyda thenantiaid. Gall fod yn anodd llenwi'r bwlch sgiliau hwn ond mae nifer o dŵls defnyddiol ar gael a all gael effaith fawr ar eich allbwn cyfathrebu digidol.


Tŵls



Mae'r rhan fwyaf o'ch allbynnau yn ddigidol erbyn hyn ac mae'r offer amrywiol a hygyrch sydd ar gael i ni yn gwneud hyn yn llawer haws. Dyma rhai o fy nhŵls hanfodol:


Adobe Photoshop/Illustrator
Ffi misol
Windows a Mac
Cyfres Adobe Creative Cloud yw'r pecyn offer proffesiynol hanfodol. Er ei fod yn cynnig llwyth o bethau, mae hefyd yn ddrud iawn a gall fod yn anodd ei ddysgu heb fuddsoddiad ychwanegol mewn hyfforddiant perthnasol. Dim ond os ydych yn recriwtio dylunydd neu swyddog creadigol proffesiynol y byddwn yn argymell hyn.


Canva
Am ddim gyda darnau darnau dewisol y mae'n rhaid talu amdanynt
Windows, Mac, Symudol/Llechen
Mae hyn yn llwyfan ar-lein am ddim a rhwydd ei ddefnyddio sy'n boblogaidd iawn ar gyfer pobl cyfathrebu heblaw dylunwyr (yn arbennig gan y gellir ei ddefnyddio ar draws timau). Mae ganddo dempledi defnyddiol wedi'u cynnwys eisoes ond mae hefyd yn eich galluogi i fewnforio delweddau a chreu eich golwg a'ch teimlad eich hun. Mae nodweddion premiwm y mae'n rhaid talu amdanynt ond mae'n ddigon hyblyg hebddynt.


Affinity Photo
£48.99
Windows, Mac, Llechen
Cystadleuydd uniongyrchol i PhotoShop, mae gan Affinity Photo fwy neu lai yr un galluoedd â Photoshop ac mae'n costio llai na £50 - cost unwaith yr unig. Mae Affinity Photo yn rymus iawn ac yn rhoi canlyniad mwy proffesiynol, gallwch hefyd edrych ar sesiynau tiwtora da gan y sefydlwyr ar YouTube.


GIMP
Am ddim
Windows
Mae rhaglen ffynhonnell agored rhad ac am ddim all wneud cryn dipyn o bethau. Nid yw'n or-rwydd ei ddefnyddio ond mae'n ddigon syml ei ddysgu. Mae'n gallu gwneud mwy o bethau na Canva ond mae angen dysgu mwy yn gyflymach.


Cynghorion


CAPS: Cadw Pethau'n Syml


Un o'r camgymeriadau mwyaf a welaf ymhlith dylunwyr amhrofiadol neu rai heb fod yn ddylunwyr yw gorgymhlethu pethau. Mae'n bwysig tynnu llinell rhwng dylunio a chelf. Mae dylunio yn bennaf oll yn ddull o gyfathrebu. Os nad oes angen rhywbeth mewn dyluniad, ewch ag ef ymaith - er nad yw hynny'n dweud na ddylai pethau edrych yn broffesiynol a chael eu gwneud yn dda.


CYD: Cynulleidfa, Ystadegau, Disgwyliad


Cynulleidfa - Ar gyfer pwy yr anelwyd y cynnwys a pham ei fod yn berthnasol iddynt? Beth yw'r ystyriaethau hygyrchedd (e.e. mynediad i dechnoleg, namau corfforol, anawsterau dysgu ac yn y blaen)? Yn eithaf aml, rydym yn anghofio am y pam, sy'n allweddol i ddeall yr hyn mae angen i chi ei greu.


Cyd-destun - Ble neu sut y caiff hwn ei ddefnyddio? A yw'n ddelwedd syml ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol? A yw'n rhan o ymgyrch ehangach? A yw'n mynd i gael ei argraffu? Pa fath o ddyfeisiau sy'n debyg o gael eu defnyddio? Sut mae ennyn diddordeb defnyddwyr yn y cynnwys? A yw'n gyfathrebu un-ffordd neu a fwriedir iddo fod yn ddialog nôl-ac-ymlaen? A yw'n gydnaws gyda brand, tôn llais a nodau cyffredinol eich sefydliad?


Gyda digidol, mae dyfeisiau gwahanol yn dangos cynnwys mewn ffyrdd gwahanol. Mae cyfrifiaduron desg/gliniaduron fel arfer yn rhai tirlun ac yn manteisio o ddatrysiadau sgrin fawr. Mae dyfeisiau symudol ar ffurf portread ac yn gul, ond mae angen hefyd i ran o'r sgrin gael ei gorchuddio naill ai gan ryngweithio defnyddwyr apiau (UI) neu gan fysedd/bodiau, felly maent angen parthau "diogel" mwy fel na chaiff manylion pwysig eu cuddio. Fodd bynnag, dylai POB dyluniad gadw geiriad i ffwrdd o ymyl dyluniad (o leiaf tua 5-10%) i osgoi problemau hygyrchedd neu golli darnau allweddol pan gânt eu tocio gan gyfryngau cymdeithasol.


Ystadegau - A oes data all helpu i ddylanwadu ar eich dyluniad? Beth weithiodd orau yn y gorffennol yn nhermau ymgysylltu a/neu drawsnewid? A oes unrhyw ystadegau ar gyfer eich cynulleidfa o'ch sefydliad chi neu unrhyw le arall? Sut fyddwch chi'n casglu'r ystadegau yma o'r dyluniad (e.e. dadansoddeg, adborth anecdotaidd ac yn y blaen)? Sut fyddwch chi'n defnyddio'r ystadegau i ddylanwadu ar eich dyluniadau yn y dyfodol? Fyddwch chi'n gwneud profion A/B i weld pa ddyluniad sy'n gweithio orau.


Disgwyliadau - Beth ydych chi'n bwriadu ei gyflawni gyda hyn? Ydych chi'n disgwyl i ddefnyddwyr ymgysylltu'n uniongyrchol gyda hyn? A yw'r dyluniad yn cyfleu hynny?


Wrth ddylunio rhywbeth dylech ystyried eich disgwyliadau. Os oes galwad-i-weithredu (e.e. Gwnewch X nawr!) sicrhewch ei fod yn fwy amlwg drwy ddefnyddio lliw, maint a siâp i'w wahaniaethu o'r elfennau o amgylch, ac mae hynny'n cyfleu'n glir beth y bwriedir i'r defnyddiwr ei wneud neu y dylai ei ddisgwyl wrth glicio.


Os oes rhywbeth yn rhoi gwybodaeth neu ysgogi ymgysylltu, gwnewch ef mor ddiddorol ag sydd modd gyda lluniau lliwgar a chyfeillgar. Mae lluniau ac eiconau yn braf, ond yn ddelfrydol defnyddiwch ffotograffiaeth ansawdd da o bobl neu fannau lleol lle'n bosibl i ennyn diddordeb. Mae pobl yn cydymdeimlo gyda phobl a chânt yn reddfol eu denu atynt (er fod lluniau go iawn yn amlwg yn fwy effeithlon na lluniau stoc neu rai sy'n amlwg wedi eu llwyfannu!)


Os yw'n rhywbeth brys neu hanfodol bwysig, defnyddiwch iaith fwy cryno a mwy bachog a gostwng yr annibendod - medrwch am arwyddion ffordd neu doiledau - ni fydd gennych amser i ddehongli mwy nag ychydig o eiriau neu brosesu graffeg manwl wrth yrru neu fod bron â marw eisiau mynd i'r tŷ bach, ac mae angen cysylltu yn yr un ffordd â phobl sy'n sgrolio ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefannau os yw rhywbeth yn hanfodol.


Dyna'r sylfeini! Ond am nawr, y cyfan sy'n rhaid i chi gofio yw CAPS a CYD!