Cymdeithasau tai yn cwrdd gyda Plaid Cymru i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng cynrychiolwyr Plaid Cymru a chymdeithasau tai o bob rhan o Gymru ar 18 Gorffennaf ar gyfer trafodaeth bwrdd crwn ddefnyddiol gyda ffocws ar flaenoriaethau hollbwysig o ddau bapur polisi gan Blaid Cymru: Gwella cartrefi Cymru: Mynd ymhellach a chyflymach, ac Adeiladu Dyfodol: Gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Trawsnewid Cyflenwi Tai Cymdeithasol yng Nghymru.
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ Gwyrddfai, hyb datgarboneiddio Adra, roedd Siân Gwenllian AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Dai a Chynllunio, ac uwch swyddogion o Adra, Pobl, Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin a Chymdeithas Tai Sir Fynwy.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Croesawn y cyfle i gael trafodaeth uniongyrchol gyda Phlaid Cymru ar y materion hollbwysig yma. Mae cymdeithasau tai ar flaen y gad wrth gyflenwi cymunedau cynaliadwy ac mae trafodaethau heddiw wedi rhoi gwybodaeth werthfawr ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i oresgyn heriau a chyflymu cyflenwi dod â phob cartref i fyny i safon dda a darparu cartrefi newydd sydd gymaint o’u hangen ledled Cymru.”

Pwyntiau trafod
Roedd y pwyntiau trafod allweddol yn ystod y cyfarfod yn cynnwys:
Strategaethau ar gyfer tai fforddiadwy safon uchel: Ymchwilio modelau cyllido blaengar, datrysiadau technolegol, gostwng allyriadau carbon, gostwng biliau ynni a gwella iechyd ar gyfer tenantiaid. Roedd hyn yn cynnwys trafodaethau ar gyflawni targedau EPC, cefnogi twf busnesau bach a chanolig a sicrhau fod aelwydydd yn rhan o’r agenda newid hinsawdd.
Hybu adeiladu tai cymdeithasol newydd: Sut y gall Unnos roi sicrwydd tymor hirach ar gyfer rhaglen o safleoedd datblygu tai. Mae hyn yn cynnwys rhannu arbenigedd ar draws gwahanol fodelau, dadrisgio safleoedd anodd a rhoi ffocws neilltuol ar gynnull tir i sicrhau safleoedd.
Digartrefedd: Trafodaeth fer ar fesur gwir gost rheoli anghenion cymorth cymhleth yng ngoleuni’r cynigion yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol.
Dywedodd Siân Gwenllian AS:
“Rwy’n anhygoel o falch fod fy etholaeth wrth graidd y chwyldro gwyrdd mewn tai, ac roedd yn bleser croesawu cynifer o randdeiliaid allweddol i Benygroes a hyb arloesol Tŷ Gwyrddfai. Mae’r cyfleuster hwn yn enghraifft rymus o sut y gall tai yrru’r chwyldro diwydiannol gwyrdd – gan gynnig llwybr i sero net a chreu swyddi gwyrdd ansawdd uchel mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol fel Dyffryn Nantlle. Mae Plaid Cymru o ddifri am fynd i'r afael â’r argyfwng tai, ac mae ein tri papur polisi diweddar ar dai yn dangos hynny . Bydd cyflymu adeiladu tai cymdeithasol newydd yn brif flaenoriaeth i ni mewn llywodraeth.”

Daeth y cyfarfod i ben drwy rannu ymrwymiad i barhau i rannu arbenigedd a datrysiadau arloesol i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o adnoddau.
Bydd CHC yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos gyda chymdeithasau tai a phawb arall sy’n berthnasol cyn a thu hwnt i etholiadau Mai 2026 i Senedd Cymru i sicrhau y caiff trafodaethau eu trosi yn weithredu pendant a gwelliannau amlwg ar gyfer pobl ledled Cymru.