Jump to content

29 Gorffennaf 2020

Cymdeithasau Tai fel sefydliadau angor

Cymdeithasau Tai fel sefydliadau angor
Dr Jamie Smith yw Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd Hafod. Y mis hwn, mynychodd weithdy fel rhan o’n rhaglen waith Dylanwadu ar gyfer dyfodol gwell. Yma mae’n trafod rôl cymdeithasau tai fel sefydliad angor:


“Ar hyd y pandemig clywsom straeon am gymunedau ym mhob rhan o’r byd yn dod ynghyd, yn trefnu eu hunain ac yn defnyddio eu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau i ofalu am eu pobl.


Rwy’n cytuno gyda’r rhai sy’n dweud y dylem gael gwared â thermau sy’n dadrymuso tebyg i ‘bregus’, ‘amddifadus’ ac ‘mewn angen’ a meddwl sut y gallwn fod yn gatalydd ar gyfer datgloi’r cryfderau sydd mor amlwg yn bodoli yn ein cymunedau. Ar adegau roedd yn ymddangos i mi bod cymunedau wedi bod yn cefnogi a chynnal seilwaith gwasanaethau cyhoeddus, pan mai’r gwrthwyneb oedd y gred gyffredinol am mor hir. Nid siarad am syniad newydd wyf i yma, dim ond un a gafodd mwy o ffocws mewn argyfwng.


Gofynnwyd i mi, ac i lawer o bobl eraill hefyd rwy’n siŵr, roi ystyriaeth gynnar i beth fyddai’r adferiad o’r argyfwng yn ei olygu a beth fyddai rôl cymdeithas tai ynddo. Yr hyn wnaeth fy nharo yw ei bod yn anodd siarad am gymunedau heb gynnwys yr is-strwythur sy’n sylfaen iddynt - yn neilltuol y sefydliadau seiliedig ar le sy’n bendant iawn yn rhan o’u hecosystemau ac a fydd yn ganolog wrth eu helpu i ddod allan o’r hyn sy’n argoeli bod yn sioc economaidd enfawr.


Fe wnaeth y gwaith ffurfiannol ar sefydliadau angor yn yr Unol Daleithiau eu nodweddu fel sefydliadau gyda chysylltiadau cryf i’r cymunedau y gweithredant ynddynt; eu bod o faint sylweddol fel cyflogwyr a phrynwyr nwyddau a gwasanaethau; ac fel arfer yn rhai dim er elw. Fe wnaeth y gwaith hefyd ddangos manteision economaidd a chymdeithasol sefydliadau angor yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni mwy na chyfanswm y rhannau, yn nhermau llesiant, addysg a hyfforddiant, iechyd a chynhyrchiant.


Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai, p’un ai ydynt yn ymwybodol o hynny neu beidio, yn cyflawni’r meini prawf hyn yn berffaith ac yn gweithredu fel sefydliadau angor mewn rhyw ffordd. Ond fel rhywun cymharol newydd yn y maes, fe wnaeth fy synnu nad oedd y sector o reidrwydd yn gweld ei hun neu’n siarad amdano’i hun yn y ffordd hon ac nad yw’r cysyniad hyd yma wedi ei blethu i’r ffabrig polisi a rheoleiddio. Ond gyda newid mor ddramatig (ac efallai barhaol) yng nghydbwysedd yr economi, o blaid pethau sylfaenol bywyd ar draul gwariant dewisol, mae’n rhaid i nawr fod yr amser i gynyddu gweithgaredd yn y maes hwn, lle gallwn yn wir ychwanegu gwerth.


Felly sut gallwn ni ddefnyddio ein buddsoddiad a’n gwariant i gryfhau sylfeini economïau lleol? Sut fedrwn ni ddylanwadu ar adferiad gwyrdd sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd a chynaliadwy? Sut fedrwn ni gyfeirio partneriaid lleol ac angorau cymunedol eraill i gydweithio i wella llesiant eu lleoedd? Ac yn nesaf at fy niddordebau fy hun, sut fedrwn ni ddefnyddio’r ymddiriedaeth a’r berthynas sydd gennym gyda chymunedau a’n sgiliau ymgysylltu i ddiogelu iechyd a gwella llesiant?


Mae’r holl ofodau hyn yn barod am arloesedd. Er ein bod yn gwybod yn fras beth sy’n gweithio, rwy’n credu ei bod yn bwysig a) peidio gosod datrysiadau o’r brig i lawr ar gymunedau (mae tystiolaeth yn dangos bod hynny’n syniad gwael) b) peidio neidio i ddatrysiadau a fedrai fod yn bosibl heb wirioneddol ddeall y problemau y cawsant eu cynllunio i’w datrys, a c) gweithredu datrysiadau mewn ffyrdd sy’n ein galluogi i ddeall eu heffaith yn iawn.


Ar y pwynt olaf hwn, rwy’n cildroi yn ddiedifar i deip, ond mae hyn, gan fwyaf, yn dir newydd. Er bod brys i weithredu (a byddwn yn gwneud hynny) dylem ystyried ein gweithredoedd fel arbrofion a chyfleoedd dysgu, gan ganfod beth sy’n gweithio orau, i bwy ac ym mha amgylchiadau. Wedi’r cyfan fel y dywedodd Richard Feynman, un o fy arwyr ‘dyfalu hyddysg yw popeth nes bod y dystiolaeth ar gael’.”


Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen ar gael yma.