Jump to content

13 Ionawr 2020

Cyfweliad gyda . . . Lucy Proudfoot

Cyfweliad gyda . . . Lucy Proudfoot
Bydd Lucy Proudfoot yn ymuno â ni yn y Gynhadledd Cyfathrebu eleni i siarad am yr ymgyrch newid ymddygiad lwyddiannus a gynhaliodd Claremont Comms ar gyfer Achub y Plant a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dargedu teuluoedd incwm isel. Darllenwch fwy am y sesiwn:


Rhowch un frawddeg sy'n crynhoi eich sesiwn.
Enghraifft o sut y gweithiodd Achub y Plant gyda'u cynulleidfa darged i roi gwybodaeth, dylunio, cynllunio a mireinio strategaeth ymgyrch i wella datblygiad iaith plant.


Pa un ddull mesur na fedrech wneud hebddo?
Mae dull arfarnu GCS (Government Communication Service) yn fodel yr awn yn ôl ato dro ar ôl tro.


Dydyn ni ddim yn defnyddio un dull penodol bob amser gan ei fod yn dibynnu cymaint ar y broses, cynnyrch neu gyd-destun (e.e. cyllideb/ffactorau ymarferol) ond rydyn ni bron bob amser yn profi pethau'n fyw gyda'r gynulleidfa a'i gynyddu wrth i ni fynd ymlaen. Gallai hyn olygu cynnal arolygon/cyfweliadau ffôn gyda phobl sy'n profi eich cynnyrch yn y lle cyntaf, a dilynir hynny gan gyfnod o ymchwil ethnograffig ymysg defnyddwyr wrth gynyddu maint y profion.


Pa mor bwysig yw hi i fesur llwyddiant ein cyfathrebu?
Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ymgyrch neu brosiect. Rydym yn gyfrifol am ddangos yr hyn a wnawn a'n gwerth am arian i ddarparwyr prosiect.


Mae hefyd yn bwysig ein bod yn teimlo fel ein bod yn gweithio ar rywbeth o sylwedd, gyda diben a dim yn gwastraffu amser. Mae hyn yn dangos yr angen i gael y mesur yn iawn yn y lle cyntaf (e.e. osgoi unrhyw fesur rhodres).


Fodd bynnag mae'n hanfodol ein bod yn mesur popeth, methiannau a llwyddiannau. Mae'n rhaid i ni fod yn dryloyw pan aeth pethau o chwith i atal gwneud yr un camgymeriadau yn y dyfodol a thaflu arian da ar ôl gwael. Lle'n bosibl, rydym yn ceisio meithrin amgylchedd o'i bod yn 'ddiogel i fethu' a dysgu o gamgymeriadau, gan addasu wrth i ni fynd ymlaen.


Beth fydd cynrychiolwyr yn ei gael o'ch sesiwn?
Technegau ar gyfer rhedeg sesiwn cyd-greu llwyddiannus gyda'ch cynulleidfa darged. Y pam a'r sut.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf ato yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Nid oes dim byd yn well na dysgu drwy brofiadau pobl eraill. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed gan y siaradwyr eraill a sgwrsio gyda'r rhai sy'n mynychu.


Archebwch eich tocynnau i'r Gynhadledd Cyfathrebu yma.