Jump to content

14 Chwefror 2020

Cyfweliad gyda . . . Laura McAllister

Cyfweliad gyda . . . Laura McAllister
Yn ein Cynhadledd Llywodraethiant 2020 bydd Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn edrych ar beth y gallwn ni fel sefydliadau ei ddysgu o fethiannau llywodraethiant o fewn y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector. Dyma godi cwr y llen ar y sesiwn:


Crynhowch eich sesiwn mewn un frawddeg.
Bydd y sesiwn yn edrych sut gall sefydliadau wella drwy edrych yn ôl ar eu llwyddiannau a'u methiannau, a dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol.


Pa un darn o gyngor fyddech chi'n ei roi ar gyfer llywodraethiant da?
Mae angen i ni gymryd llywodraethiant o ddifrif a buddsoddi mewn sylfeini llywodraethiant da gyda bwrdd amrywiol. Mae'n rhan sylfaenol o'n sefydliadau.


Pam ei bod hi mor bwysig i gymdeithasau tai ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol?
Mae'n bwysig ein bod yn annog y syniad o ddiwylliant dysgu sy'n barod i wrando ar her gan bobl o'r tu allan i'n hamgylchedd arferol. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn edrych ar sectorau eraill yn ogystal â'n sector ein hunain, a gweld beth fedrwn ei ddysgu. Mewn sectorau fel chwaraeon mae athletwyr yn defnyddio methiant fel sbringfwrdd ar gyfer ffyrdd ymlaen, yn canolbwntio'n naturiol ar nodau ac yn hunanfeirniadol.


Pa mor bwysig yw llywodraethiant da ar gyfer dyfodol sefydliadau?
Mae'n hollbwysig. Mae pobl yn tueddu i ymhelaethu ar fethiannau sefydliadau, eto fel arfer gellir rhagweld methiannau gydag arweinyddiaeth wael, egos cryf a gormod o bwyslais ar unigolion yn hytrach na datblygu sefydliad a darparu ar gyfer y dyfodol. Ond rhaid i ni beidio bod yn nerfus am hyrwyddo ein llwyddiannau. Mae llwyddiant a methiant yn cryfhau sefydliadau.


Beth fydd cynrychiolwyr yn ei gael o'ch sesiwn?
Gwyntyllu eich methiannau. Bod yn fwy tryloyw. Derbyn eich heriau.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Llywodraethiant?
Rwy'n gobeithio y bydd yn sgwrs ryngweithiol gyda phobl sy'n ymroddedig i wella llywodraethiant, felly dewch gyda meddwl agored.


Archebwch eich tocyn am Cynhadledd Llywodraethiant 2020 yma.