Jump to content

13 Rhagfyr 2019

Cyfweliad gyda . . . Andrew Bruce

Cyfweliad gyda . . . Andrew Bruce
Mae monitro a gwerthuso yn her enfawr i dimau cyfathrebu, ond yn hanfodol os ydym eisiau arddangos effaith ymgyrch neu ddangos gwerth i dimau uwch. Bydd Andrew Bruce Smith, ymgynghorydd arbenigol mewn cysylltiadau cyhoeddus digidol, SEO a dadansoddeg gyda 32 mlynedd o brofiad, yn rhannu cynghorion ar y dulliau a'r technegau gorau i gefnogi gyda monitro, mesur a gwerthuso yn ein Cynhadledd Cyfathrebu 2020.


Crynhowch eich sesiwn mewn un frawddeg
Sgorio a gwerthuso - rwy'n gobeithio rhoi dealltwriaeth i gynrychiolwyr o'r ymarfer byd-eang diweddaraf ar ymchwil, cynllunio a mesur, yn ogystal â sut i osod amcanion sy'n gysylltiedig gyda nodau sefydliad a sut i weithredu systemau mesur mwy effeithlon ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus.
Pa un offeryn mesur fedrech chi ddim gwneud hebddo?
Google Data Studio. Mae hwn yn ddangosfwrdd grymus iawn a llwyfan integreiddio data sy'n eich galluogi i ddod â gwybodaeth o wahanol ffynonellau ynghyd i roi darlun mwy holistig o wir effaith gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Ac mae'n rhad ac am ddim.
Pa mor bwysig yw hi i fesur llwyddiant ein cyfathrebu?
Mae mesur yn bwysig am lu o wahanol resymau. Y rheswm allweddol yw, os nad yw cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu yn medru dangos effaith a gwerth gwirioneddol, na fydd byth yn cael sylw a chydnabyddiaeth uwch reolwyr a rhanddeiliaid mewn unrhyw sefydliad.
Beth fydd cynrychiolwyr yn ei gael allan o'ch sesiwn?
Rwy'n gobeithio rhoi cyngor ymarferol i bobl sy'n eu galluogi i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu dull o fesur. Rwy'n credu fod y rhan fwyaf o bobl nawr yn deall mai dyna'r hyn ddylent fod yn ei wneud - ond mae gwneud hynny go iawn yn fater arall. Amser ac arian yw'r rhwystrau arferol. Ond mae nawr gymaint o ddulliau am ddim a rhad ar gael nad oes unrhyw esgus am beidio cymryd dull mwy cadarn o fesur cysylltiadau cyhoeddus.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Cwrdd â llawer o bobl newydd a medru rhannu dirnadaeth a gwybodaeth am sut i fesur cysylltiadau cyhoeddus yn fwy effeithlon.





Archebwch eich tocyn am ein Cynhadledd Cyfathrebu yma.