Jump to content

18 Ionawr 2019

Cyflwyno aelodau Llywodraeth Cymru

Cyflwyno aelodau Llywodraeth Cymru
Wrth i 2019 fynd rhagddi o ddifri, mae'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn teimlo fel amser maith yn ôl ac mae'r dechrau newydd sy'n addo, ond byth braidd yn cyflawni, yn cychwyn pylu.


Un maes lle gwelwyd dechrau newydd go iawn ar gyfer 2019 yw Llywodraeth Cymru. Penododd Mark Drakeford, y Prif Weinidog newydd, ei gabinet newydd ychydig cyn diwedd 2018, felly bydd y Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidogion yn dod i'r afael â'u portffolios newydd wrth i'r Flwyddyn Newydd ddechrau. Blwyddyn newydd, cabinet newydd, fel y dywed yr hen air.
Fel yr addawyd yn ei faniffesto, mae Mark Drakeford o'r diwedd wedi rhoi lle i'r sector tai wrth fwrdd y cabinet, rhywbeth y bu ei angen ers talwm. Caiff y sector yn awr ei gynrychioli gan Weinidog a hefyd Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, gyda Julie James AC yn Weinidog a Hannah Blythyn AC yn Ddirprwy Weinidog. Byddant yn rhannu'r portffolio tai ynghyd â Llywodraeth Leol, gyda briff enfawr fydd yn gyfrifol am fwy na £1bn o wariant ar dai ond hefyd faterion anodd strwythur, cyllid a gweithrediad llywodraeth leol. Ni fu cyhoeddiad swyddogol yma ar raniad y gwaith rhwng y Gweinidog a'r Dirprwy hyd yma, gyda'r Prif Weinidog yn awyddus i weld mwy o rannu cyfrifoldeb, ond mae rhestr lawr o gyfrifoldebau'r ddwy ar gael yma.


Cafodd Julie James ei hethol yn 2011 yn Aelod Cynulliad Gorllewin Abertawe. Bu ganddi eisoes nifer o swyddi Gweinidogol, yn cynnwys Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. O gofio am ei swydd ddiweddar fel Arweinydd y Tŷ, mae Julie wedi arfer bod â rôl amlwg yn y Cabinet, gan fod wedi llanw yn rheolaidd dros Carwyn Jones yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae wedi trafod tai cymdeithasol nifer o weithiau yn y swydd hon.


Mae ei chydweithwraig Hannah Blythyn yn dal i fod yn gymharol newydd i'r Cynulliad, gan gael ei hethol yn Aelod Cynulliad Delyn yn etholiad 2016. Yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog yr Amgylchedd byddai wedi bod yn gyfarwydd gyda llawer o'r heriau sy'n wynebu'r sector mewn meysydd fel adfywio a gostwng carbon.


Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei huchelgais ar dai, gyda'i tharged o 20,000 o gartrefi newydd a mwy na £1bn o gyllid yn nhymor hwn y Cynulliad, ond mae'r argyfwng tai yn broblem hirdymor sydd angen datrysiadau hirdymor. Mae codi statws tai i fwrdd y cabinet yn dyst o bwysigrwydd cynyddol y mater a'r sylw cynyddol a roddwyd iddo ar lefel genedlaethol mewn blynyddoedd diweddar.


Mae'r amserau yn newid, ac mae'r argyfwng tai yn awr yn effeithio ar fwyafrif helaeth y boblogaeth mewn llawer o ffyrdd, o anghenion dwys rhai sy'n cysgu ar y stryd i denantiaethau ansicr neu fethu medru cynilo am ernes. Fodd bynnag, mae ymgyrchoedd tai wedi taro tant o ddifri gyda'r cyhoedd a'r cyfryngau mewn blynyddoedd diweddar a gobeithio y bydd y sylw hwn yn trosi'n weithredu pellach ac yn bwysicach, gyllid parhaus.


Gobeithio fod creu'r swydd lefel uchaf newydd hon yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'i chyfuno gyda portffolio blaenoriaeth uchel Llywodraeth Leol, yn dangos yr arwyddocâd fydd gan tai dan arweinyddiaeth Mark Drakeford. Nid yw mwyach yn rhywbeth y gellir ei leihau mewn blaenoriaeth, ei anghofio neu ei esgeuluso o blaid meysydd eraill. Dangosodd Gorwelion Tai yr effaith y gall tai da, neu wael, ei gael ar gymunedau ac unigolion a gobeithio y bydd y Cabinet yn cydweithio i roi'r cyllid a'r sylw mae tai gymaint ei angen. Mae tai o'r diwedd yn cael llwyfan, a gobeithio pan gyhoeddir adroddiad Adolygiad o Dai Fforddiadwy ym mis Ebrill, y gallwn sicrhau consensws ar draws pleidiau ac ar draws y Llywodraeth i gymryd y camau nesaf i fynd i' afael â'r argyfwng tai.