Jump to content

22 Tachwedd 2019

Cyfle i weld cymunedau sydd wedi profi stigma yn cael eu troi o amgylch

Cyfle i weld cymunedau sydd wedi profi stigma yn cael eu troi o amgylch
Mae Gwynne wedi bod yn gweithio ym maes tai ers 32 mlynedd, gan symud ar draws y sector yng Nghymru a Lloegr. Mae bellach wedi bod gyda Cartrefi Conwy ers dros ddeng mlynedd.


Darllenwch am ei daith dros y tri degawd diwethaf yma:


“Yn 1987, dechreuais fy swydd gyntaf mewn tai: rôl dros dro fel Casglwr Rhent Llanw yng Nghyngor Bwrdeistref Arfon. Roeddwn newydd raddio o'r Coleg Normal, Bangor gyda gradd mewn Astudiaethau Amgylcheddol, a chyfnod o chwe mis yn llanw dros absenoldeb salwch oedd fy nghysylltiad cyntaf â'r sector tai. Cefais flas go iawn arno mewn dim o dro.


“Ar ôl blwyddyn o gontractau dros dro, cefais fy mhenodi i fy swydd barhaol gyntaf. Oddi yno, cefais fy nghefnogi i ddilyn cymhwyster tai proffesiynol a symudais ar draws y sector yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Pan sefydlwyd Cartrefi Conwy yn 2008, cefais fy mhenodi yn Gyfarwyddydd Gweithrediadau ac rwyf wedi bod yn Rheolydd Gyfarwyddydd nawr am bron dair blynedd.


“Roedd Cartrefi Conwy yn gyfle gwych i mi wneud gwahaniaeth ar raddfa fawr a chreu cymunedau i ymfalchïo ynddynt. Fy hoff beth yw gweld cymunedau sydd wedi profi stigma yn cael eu troi o amgylch.


“Adfywio'r amgylchedd yw rhan orau fy swydd, a chael yr holl gymuned i gymryd rhan mewn prosiectau. Bedair blynedd yn ôl cafodd ein datblygiad tai Parc Peulwys statws baner werdd, y gyntaf o'i fath yng Nghymru, ac eleni fe wnaeth cymuned arall ennill baner werdd yn Y Cwm yn Llandudno.


“Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau gwych i weithio iddynt, mae'n wych gweld y gwahaniaeth y mae'r sector yn ei wneud o lygad y ffynnon.”


Mae’r ymgyrch ‘Dyma’r Sector Tai’ yn dangos sector deinamig ac uchelgeisiol gyda chyfleoedd gyrfa gwych. Darganfyddwch mwy yma.



Mae llawer wedi digwydd ers i Gwynne ddechrau ei yrfa. Gweler ein llinell amser o'r 30 mlynedd diwethaf yma:


Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).