Jump to content

04 Awst 2017

Cyfle Cymdeithas Tai YMCA


Fel rhan o'n cyfres ar dai arloesol, nodyn cyflym ar gyfle mawr i aelodau CHC sydd â diddordeb mewn datblygu yng Nghasnewydd ...


Ar fore heulog yr wythnos hon, fe wnes gwrdd gyda Mandy Caddy, Rheolydd Datblygu Cyllid Cartrefi Tai YMCA yng Nghaerdydd er mwyn trafod cyfle datblygu posibl a all fod o ddiddordeb i aelodau eraill CHC sy'n dymuno datblygu yng Nghasnewydd.


Cafodd Mandy y dasg o ymchwilio nifer o opsiynau tai gyda golwg ar ddatblygu llain o dir ar gyfer tai cost cymdeithasol yng Nghasnewydd sy'n eiddo'r YMCA, a gwahoddodd fi i gwrdd â hi i weld ei hoff opsiwn - cartref ffrâm bren a gododd PMS, contractwr adeiladu a chynnal a chadw o'r Barri, i'w werthu'n breifat yn Radyr. Yn uned daclus, un llawr, mae'r cartref wedi'i osod yng ngardd cartref preifat ac mae'n cael ei osod ar sail ran-amser ar hyn o bryd.


Wedi'i adeiladu gan PMS, gyda phaneli pren a gynhyrchwyd oddi ar y safle dan gontract preifat, gellir pentyrru'r cartrefi ac ni chânt eu codi i unrhyw gynllun neilltuol, felly gellir amrywio'r meintiau o gartref i gartref. Mae hwn â digon o le i gwpl fyw'n gysurus ynddo, gydag ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi daclus a chegin/lolfa braf.


Ar ôl cymharu hyn gyda modelau parod-i-fynd (sydd fel arfer yn costio dros £55k yr uned), y model pren a gaiff ei ffafrio gan ei fod yn hyblyg i weddu i anghenion pawb ac mae'n costio rhwng 30-40% yn rhatach o gymharu tebyg gyda thebyg. Gellir codi'r model, a adeiladwyd dros ffrâm bren ar y safle, un ai fel unedau unigol (fel byngalo) neu fel teras pentwr o unrhyw uchder a lled hyd at 3 uned o uchder (h.y. wedi'i adeiladu’n annibynnol neu fel ychwanegiad i adeilad presennol). Byddai'r pris yn cynyddu ychydig pe defnyddid pren o Gymru (caiff y pren ei fewnforio o Lychlyn ar hyn o bryd) ond gellir gwneud hyn. Mae cwmpas oes y cynnyrch yn debyg i adeilad a godwyd mewn modd confensiynol ac mae'r holl brif fenthycwyr yn cynnig cyllid morgais ar yr un telerau ag ar gyfer mathau eraill o eiddo. Unwaith mae'r gwaith brics/rendro allanol a'r bwrdd plaster mewnol yn ei le, nid yw'r ymddangosiad terfynol yn ddim gwahanol i adeilad carreg.


Siaradodd Dean Caddy (gŵr Mandy a pherchennog PMS) yn hyderus am nodweddion amgylcheddol y cynnyrch. 'Nhw sydd â'r gost CO2 isaf o unrhyw ddeunydd adeiladau prif ffrwd, er enghraifft, mae cartrefi ffrâm bren yn arbed tua 4 tunnell o CO2 - cyfwerth â gyrru tua 14,000 milltir! Maent yn anwenwynig ac yn un o'r deunyddiau adeiladu adnewyddadwy mwyaf naturiol sydd ar gael ar y farchnad heddiw. Erbyn hyn mae gan un ym mhob pump o gartrefi newydd ffrâm beren, gan arbed o leiaf 150,000 tunnell fetrig o garbon i Brydain bob blwyddyn. Caiff y model ei ddarparu ar sail dim-er-elw, felly gallwn gynorthwyo wrth gynnig cartrefi i bobl mewn cartrefi bregus mor rhad ag sydd modd. Mae hyn yn sicrhau y gallwn barhau i gynnig cyflogaeth hirdymor ac yn cynnig lleoliadau hyfforddiant ar gyfer pobl sy'n dymuno dysgu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.'


Mae'r tir y mae'r YMCA yn bwriadu adeiladu arno yn llain o tuag erw o faint ger Stad Ddiwydiannol Maesglas yng Nghasnewydd. Er mai'r YMCA yw perchen y tir, nid ydynt yn sefydliad sy'n datblygu. Mae Mandy yn hapus i drafod unrhyw bosibilrwydd ar gyfer gweithio partneriaeth gan weithio gyda chymdeithasau lleol a gellir cysylltu â hi ar 029 2046 6381 (mandy.caddy@ymcacardiff.wales ) os hoffech drafod y cyfle hwn gyda hi.




Hugh Russell
– Swyddog Polisi, CCC