Jump to content

18 Rhagfyr 2019

Cyflawni rhenti fforddiadwy lleol

Cyflawni rhenti fforddiadwy lleol
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Polisi Rhent ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol. Yn gynharach eleni, gwnaeth panel yr Adolygiad Annibynnol ar y Cyflenwad o Dai Fforddiadwy nifer o argymhellion yng nghyswllt rhenti ac mae effaith trafodaethau'r panel yn amlwg.


Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod polisi rhent am gyfnod o bum mlynedd o fis Ebrill 2020, gan ymateb i'r achos y bu cymdeithasau tai yn ei wneud am flynyddoedd lawer: mai'r peth gorau yw gosod rhenti fforddiadwy yn lleol, gan ymateb i amgylchiadau lleol ac mewn dialog gyda thenantiaid.


Cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar gynnydd rhent blynyddol o hyd at CPI +1% bob blwyddyn am bum mlynedd tan 2024/25, yn amodol ar chwyddiant blynyddol. Cytunodd hefyd y gall rhenti tenantiaid unigol gael eu gostwng, eu rhewi neu eu cynyddu gan hyd at £2 dros CPI +1% cyhyd nad yw cyfanswm incwm rhent yn fwy na CPI +1%. Nid yw'r setliad hwn yn gynnydd awtomatig, ond yn hytrach y paramedrau y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wneud dyfarniadau ynddynt mewn partneriaeth gyda thenantiaid am y ffordd orau i sicrhau rhenti fforddiadwy ar gyfer eu cartrefi.


Mae hwn yn bolisi rhent yr ydym wedi galw amdano ers amser maith ac yn ymrwymiad a groesewir i roi'r sicrwydd a'r hyblygrwydd mae cymdeithasau tai eu hangen i ddarparu rhenti fforddiadwy sy'n ymateb i amgylchiadau lleol. Fodd bynnag, nid gwn cychwyn yw cyhoeddiad heddiw. Mae'r daith wedi dechrau eisoes. Yn gynharach eleni, gwnaeth cymdeithasau tai ymrwymiad i ddarparu polisïau rhent fforddiadwy lleol a sefydlu gweithgor i ymchwilio'r materion.


Cytunodd y gweithgor i ddatblygu cyfres o ddulliau i gefnogi cymdeithasau i tai i ddatblygu polisïau rhent lleol, yn cynnwys egwyddorion fforddiadwyedd sy'n gweithredu ar draws y sector, dull i ddeall costau cysylltiedig â thai ar gyfer tenantiaid a chefnogaeth i ymgysylltu a gwneud penderfyniadau gyda thenantiaid.


A rydym yn gwneud cynnydd:
  • Rydym yn ymchwilio'r posibilrwydd o addasu dull fforddiadwyedd a ddefnyddir yn yr Alban, a ddatblygwyd gan Ffederasiwn Tai Cymdeithasol yr Alban a Housemark, yng Nghymru.

  • Rydym wedi cytuno ar rai egwyddorion dechreuol ar fforddiadwyedd y bydd grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn eu datblygu ymhellach yn yr wythnosau nesaf cyn eu rhannu'n fwy eang ar gyfer adborth.

  • Rydym yn cynnal gweminar gyda Cartrefi Cymoedd Merthyr a Trivallis ym mis Ionawr i ddysgu o'u profiadau o weithredu polisïau rhent lleol.

  • Rydym yn gweithio gyda TPAS Cymru i ddylunio digwyddiad ar gyfer tenantiaid yn y Gwanwyn 2020 i drafod sut yr hoffai tenantiaid gyfranogi a chymryd rhan mewn trafodaethau gosod rhent lleol.

  • Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn ymchwilio dulliau a thechnegau cyd-gynhyrchu a rhannu'r gorau ohonynt gyda chi i gefnogi eich gwaith gyda thenantiaid.


Mae llythyr heddiw gan y Gweinidog yn ei gwneud yn glir y disgwylir i bob landlord cymdeithasol ddangos ystyriaeth gadarn a gofalus o fforddiadwyedd a barn tenantiaid pan fyddant yn gosod rhenti lleol. Mae'r rhaglen waith a ddatblygwn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i ddangos hyn a chyflenwi rhenti sy'n wirioneddol fforddiadwy ar gyfer tenantiaid a galluogi cymdeithasau tai i barhau'r cymunedau a'r cartrefi ansawdd uchel, diogel a chynnes mae Cymru eu hangen.