Jump to content

08 Hydref 2018

Cydweithredu mewn Tai

Cydweithredu mewn Tai
Bydd Dave Palmer o Ganolfan Cydweithredol Cymru yn siarad yn ein Cynhadledd Tai Fawr. Mae'n dweud wrthym sut y gall cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol weithio gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i gael mynediad i gefnogaeth.


Dwyf i fawr o un am ddyfyniadau, nac ychwaith yn Frenhinwr, ond tra roeddwn yn paratoi i ysgrifennu'r blog yma ar gyfer Cynhadledd Tai Fawr CHC fe welais y dilynol ar eu gwefan, gan neb llai na'r Frenhines Elizabeth II.


‘I know of no single formula for success. But over the years I have observed that some attributes of leadership are universal and are often about finding ways of encouraging people to combine their efforts, their talents, their insights, their enthusiasm and their inspiration to work together‘


A chymhwyso hyn i dai cymunedol, mae'r cyfan am gydweithredu!


Yn y sesiwn ar Fentrau Cydweithredol Tai Gwledig yn y Gynhadledd Tai Fawr, byddaf yn dangos sut gall cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gael mynediad i gefnogaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ateb y galw am dai cydweithredol ledled Cymru.


Mae saith Egwyddor Cydweithredol Rhyngwladol, a'r olaf (a'r pwysicaf?) ohonynt yw consyrn am y gymuned, gan weithio dros ddatblygiad cynaliadwy cymunedau drwy bolisïau a gymeradwyir gan aelodau.


Fodd bynnag mae mentrau cydweithredol hefyd yn fentrau seiliedig ar foeseg, gwerthoedd ac egwyddorion sy'n rhoi anghenion a dymuniadau aelodau uwchben y nod syml o gynyddu elw i'r eithaf. Drwy hunan-gymorth a grymuso, ailfuddsoddi mewn cymunedau a chonsyrn am lesiant pobl a'r byd yr ydym yn byw ynddo, mae mentrau cydweithredol yn meithrin gweledigaeth hirdymor ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, datblygiad cymdeithasol a chyfrifoldeb amgylcheddol. Mae hyn yn sicrhau fod mentrau tai yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yma yng Nghymru.


Fel busnesau sy'n eiddo'r aelodau, yn cael eu rhedeg gan aelodau ac yn gwasanaethu aelodau, mae mentrau cydweithredol yn grymuso pobl i wireddu eu huchelgais economaidd gyda'i gilydd, gan gryfhau eu cyfalaf cymdeithasol a dynol a datblygu eu cymunedau.


Hefyd yn y sesiwn bydd Jon Adams, Swyddog Datblygu Prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Parc Llesiant Bronllys yn disgrifio eu cynnydd i ddiwallu anghenion y Ddeddf yn eu cymuned wledig. Bydd hefyd yn cyflwyno cynnig ar gyfer datblygu tai fforddiadwy yn ogystal â phrosiectau eraill.


Mae'n argoeli bod yn sesiwn fuddiol iawn.


Mae rhaglen lawn y Gynhadledd Tai Fawr ar gael yma a gallwch archebu eich tocynnau yma.