Jump to content

03 Chwefror 2020

Cwrdd a'r Tim: Terryanne O'Connell

Cwrdd a'r Tim: Terryanne O'Connell
Beth yw eich enw?
Terryanne O’Connell


Ble ydych chi'n gweithio a a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n Gymhorthydd Gweinyddol ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru. Rwyf wedi bod yn gweithio yma ers 8 mis. Mae fy nyletswyddau'n amrywio o ddydd i ddydd yn dibynnu ar pwy sydd angen fy chymorth yn amrywio o gynorthwyo'r Prif Weithredydd i wagu'r peiriant golchi llestri. Fi yw'r un fydd yn eich cyfarch gyda gwên a rhoi lluniaeth i chi yn ystod eich ymweliad. Rwy'n prosesu archebion hyfforddiant a chynadleddau ac yn delio gydag unrhyw ymholiadau ychwanegol.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Ar ôl gweithio i gwmni telathrebu am 40 mlynedd, fe gefais fy mhen-blwydd yn 40 a phenderfynu mod i eisiau newid gyrfa. Gwelais hysbyseb ar gyfer y swydd a meddwl pam lai! Roeddwn eisiau bod yn rhan o sefydliad sy'n mynd ati i gefnogi ei haelodau i wella ansawdd cartrefi i bawb.


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Faint mae cymdeithasau tai yn ei wneud i help darparu cartrefi diogel a fforddiadwy a chymunedau.


Ble fyddech chi'n gweithio, pe na fyddech chi yn y sector tai?
Mae'n fwy na thebyg y byddwn yn dal i fod yn fy swydd flaenorol.


Beth yw eich hoff ran o'r swydd?
Rwy'n mwynhau cynorthwyo'r tîm digwyddiadau a hyfforddiant i baratoi a rhedeg cynadleddau a chyrsiau hyfforddiant, rwy'n cael cyfle i rwydweithio a chwrdd gyda phobl newydd.


Beth sy'n eich cymell?
Fy mhlant…..


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Dydw i ddim! Mae fy mhlant yn fy nghadw'n brysur gyda'u gweithgareddau cymdeithasol ond pan gaf amser i fi fy hun rwy'n hoffi darllen neu edrych ar ffilm. Rwy'n darllen Disney's Twisted Tales ar hyn o bryd ac wrth fy modd gyda Harry Potter.


Beth yw eich camp fwyaf?
Rwyf newydd gyrraedd y garreg filltir 5 mlynedd wrth drechu canser y fron.


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras i chi?
Gyrru fy nghar yn ddamweiniol i fewn i fy nhŷ!


Ble aethoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oeddech chi'n feddwl ohono?
Cala’n Brut, Menorca gyda fy nheulu. Roedd yn hyfryd ac roedd y neidio clogwyni yn fendigedig, fe wnaethom ei fwynhau'n fawr iawn.