Jump to content

24 Chwefror 2020

Cwrdd a'r Tim - Rhian Robinson

Cwrdd a'r Tim - Rhian Robinson
Beth yw eich enw?
Rhian Robinson


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwyf yn y Tîm Gwasanaethau Canolog ac yn canolbwyntio ar Raglen Digwyddiadau a Datblygu Busnes CHC. Rwyf hefyd yn gweithio fel rhan o'r Tîm Dyfodol Tai ac mae'n gyffrous iawn gweld sut y byddwn yn datrys problem sydd wedi bod yn wynebu'r sector tai yng Nghymru.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Mae'n debyg fel y rhan fwyaf sy'n gweithio yn y sector, rhyw fath o syrthio i mewn i'r sector wnes i.


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Ei fod yn ymwneud â mwy nag adeiladu tai, mae hefyd am adeiladu cymunedau.


Ble fyddech chi'n gweithio, pe na fyddech yn y sector tai?
Byddwn naill ai yn yr heddlu neu hyfforddi rygbi.


Beth yw eich hoff ran o'r swydd?
Y berthynas rwyf wedi eu ffurfio gyda fy nghydweithwyr dros y 15 mlynedd ddiwethaf.


Beth sy'n eich cymell?
Ymdrechu'n barhaus i ddarparu'r gwasanaeth cynadleddau a chwsmeriaid gorau.


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Dim yn siŵr os byddech yn ei alw'n ymlacio, ond rwy'n dwlu ar rygbi. Mae gen i docyn tymor yn y Gweilch (tymor llawn stres) a hefyd wrth fy modd yn dilyn Ieuenctid Pontypridd, tîm fy mab.


Beth yw eich camp fwyaf?
Ben, fy mab. Rwyf mor falch o'r dyn ifanc y tyfodd i fyny iddo. Wn i ddim o ble y cafodd ei ymennydd.


Beth a achosodd fwyaf o embaras i chi?
Tra'r oeddwn yn aros am fy mab o wersyll rygbi'r Gweilch, llwyddais i dywallt cwpanaid o siocled poeth dros fy nghôl. Roeddwn wedi bod i'r gampfa y diwrnod hwnnw felly es i newid i fy nhrowsus hyfforddi. Penderfynais wneud hynny yn y car gan ei bod mor dawel, neu dyna a feddyliwn, ond pan oeddwn ar hanner newid, fe wnaeth holl sgwad y Gweilch orffen hyfforddi a dechrau symud heibio fy nghar a finnau'n gwneud fy ngorau i dynnu fy nhrowsus hyfforddi lan.


Ble fuoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oeddech yn ei feddwl amdano?
Efrog Newydd, lle anhygoel, ond am ymosodiar ar eich synhwyrau.