Jump to content

25 Tachwedd 2019

Cwrdd â'r tîm: Rhea Stevens

Cwrdd â'r tîm: Rhea Stevens
Beth yw eich enw?
Rhea Stevens


Beth yw eich gwaith?
Pennaeth Polisi a Materion Allanol, Cartrefi Cymunedol Cymru.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Dyma fy swydd gyntaf yn y sector tai, ond cefais lawer o gysylltiad gyda gwaith gwych cymdeithasau tai mewn swyddi blaenorol mewn polisi gofal cymdeithasol, plant sy'n derbyn gofal a phobl hŷn. I mi atyniad mawr y sector yw'r cyfuniad hudol o arbenigedd, angerdd, adnodd, annibyniaeth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i fywydau pobl - mae hwn yn sector sy'n cyflawni pethau!


Beth yw'r peth pwysicaf i chi ei ddysgu ers i chi ddechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Doeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli lefelau'r arloesi i ymateb i amgylchiadau lleol a'r amrywiaeth dulliau gweithredu ymysg cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae'n hanfodol sicrhau amgylchedd polisi sy'n annog arloesi.


Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n gwneud cais am swydd yn y sector?
Gwnewch e! Mae'r egni yn y sector yn wefreiddiol - byddwch wrth eich bodd.


Ble fyddech chi'n gweithio os nad yn y sector tai?
Rhywle y gallaf weithio gyda phobl sy'n gwneud gwaith uniongyrchol gyda phobl a chymunedau - un o atyniadau tai.


Beth sy'n eich cymell?
Gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn - gweld newid polisi cadarnhaol yn cael ei roi ar waith a gwneud pethau'n well i bobl.


Beth ydych chi'n wneud i ymlacio?
Yoga poeth a bath poeth - rwy'n teimlo'r oerfel!


Moment falchaf?
Newid yn gyfraith yn 2014 fel y gall pobl ifanc mewn gofal maeth yng Nghymru aros gyda'u teuluoedd maeth ar ôl cyrraedd 18 oed, yn hytrach na chael eu gwthio i fyw'n annibynnol cyn eu bod yn barod.


Moment a achosodd fwyaf o embaras?
Rwy'n drwsgl iawn - mae llawer gormod o bethau i'w ddewis o'u plith pan maent yn digwydd mor rheolaidd.


Beth oedd y ffilm ddiwethaf i chi edrych arni a beth oedd eich barn amdani?
Toy Story 4 – llond bol o chwerthin, felly roedd yn wych!