Jump to content

12 Rhagfyr 2019

Cwrdd a'r Tim: Lesley Smith

Cwrdd a'r Tim: Lesley Smith
Beth yw eich enw?
Lesley Smith


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n gweithio i CHC fel Swyddog Datblygu Dysgu a Datblygu.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Nid oedd yn rhywbeth roeddwn wedi bod yn edrych amdano, nac yn rhywbeth roeddwn wedi hyd yn oed feddwl amdano. Mae fy nghefndir mewn hyfforddiant ac roedd y disgrifiad swydd a'r wybodaeth a ddarllenais am CHC yn teimlo fel ffit da i fi.


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?Bod cynifer o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a datblygu eich gyrfa o fewn y sector. Hefyd bod cymdeithasau tai'n gwneud cymaint mwy nag oeddwn wedi sylweddoli!


Ble fyddech chi'n gweithio, os dim yn y sector tai?
Mae'n debyg y byddwn yn athrawes mewn ysgol gynradd neu gyfun.


Beth yw eic hoff ran o'r swydd?
Rwyf yn berson pobl ac yn mwynhau cwrdd â'n haelodau mewn digwyddiadau neu ddatblygu perthynas gyda'n haelodau masnachol.


Beth sy'n eich cymell?
Yn y gwaith - adnabod potensial tîm Datblygu Busnes CHC


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Mae'n dibynnu faint o'r gloch y byddaf yn cyrraedd adre ond fel arfer rwy'n darllen neu'n edrych ar y teledu. Rwyf hefyd yn hoff iawn o fwyta allan. Ar y penwythnos fel arfer bydd gwin a threulio amser gyda'r teulu.


Beth yw'r peth mwyaf i chi ei gyflawni?
Drwy addysgu - cynyddu hyder a sgiliau grŵp o bobl ifanc a gafodd eu barnu yn 'blant drwg' ac oedd yn teimlo fod y system addysg wedi eu gadael ar y clwt.


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras?
Mynd yn sownd mewn reid i blant yn Mothercare ar ôl penderfynu eistedd yno oherwydd i mi gael noson fawr.


Ble aethoch chi am eich gwyliau diweddaraf a beth oedd eich barn amdano?
Fe es ar daith – Niagra Falls (Canada), Washington, New Jersey ac Efrog Newydd. Er i mi wirioneddol fwynhau ymweld â Niagra Falls yng Nghanada (roedd yn fendigedig) a rhannau o America - yn arbennig Gettysburg roedd Efrog Newydd yn siomedig iawn.