Jump to content

04 Mai 2020

Cwrdd a'r Tim - Laura Courtney

Cwrdd a'r Tim - Laura Courtney
Beth yw eich enw?
Laura Courtney


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi’n wneud?
Rwy’n Rheolydd Polisi a Materion Allanol CHC. Rwy’n arwain ar bolisi llesiant ac ar reoleiddio a llywodraethiant.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Mae fy nghefndir mewn polisi yn dylanwadu ar gyfer elusennau sy’n gweithio ar iechyd, gofal cymdeithasol, llesiant, gwasanaethau plant a hawliau anabledd. Mae hyn wedi fy nysgu sut mae tai yn sylfaenol i fywydau unigolion a’u hiechyd a’u llesiant. Roeddwn wirioneddol eisiau gweithio i sefydliad sy’n help i ddarparu cartrefi i bobl ledled Cymru.


Beth yw’r peth pwysicaf i chi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Rwyf wedi dechrau dysgu am gyfraniad rhyfeddol cymdeithasau tai i fywydau eu tenantiaid ac i’r gymuned ehangach. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy am hyn, ac i fynd allan i ymweld ag aelodau.


Ble fyddech chi’n gweithio pe na fyddech chi yn y sector tai?
Mae’n debyg y byddwn mewn tîm polisi neu o fewn Llywodraeth Cymru. Serch hynny, fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd bod yn fiolegydd morol, yn arbennig os oedd yn golygu astudio bywyd môr ar ynys drofannol rywle.


Beth yw eich hoff ran o’r swydd?
Rwy’n wirioneddol fwynhau clywed gan aelodau a chynnal trafodaethau ar faterion polisi allweddol yn y Grwpiau Cyflenwi Strategol. Rwyf hefyd yn mwynhau cyfarfodydd o’r holl dîm yn CHC – mae pawb mor gadarnhaol ac yn hwyl fawr i weithio gyda nhw.


Beth sy’n eich cymell?
Canfod datrysiadau i broblemau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl. Dysgu gan aelodau am y ffordd y cefnogant denantiaid a gobeitho ei gwneud ychydig yn haws drwy ddylanwadu ar bolisi.


Sut ydych chi’n ymlacio ar ôl gwaith?
Rhedeg o amgylch traethau penrhyn Gŵyr gyda fy merch dair oed a fy ngŵr.


Beth yw eich camp fwyaf?
Fy uchafbwynt proffesiynol oedd sicrhau y lefel fwyaf erioed o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i blant anabl pan oeddwn yn gweithio i ymgyrch Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfri. Yn fy mywyd personol, mae’n debyg mai dringo i gopa Mount Kenya fyddai hynny. Roedd yn anhygoel a hollol arswydus.


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras i chi?
Cefais fy nghyfweld mewn tafarn gan y BBC ar noson etholiad yn 2005. Dywedais rywbeth fel bod â ‘chalon drom’. Fe wnaeth pawb oeddwn erioed wedi cwrdd â nhw ei weld. Cefais hyd yn oed e-bost gan bobl oedd yn yr ysgol gynradd gyda fi!


Ble oedd eich gwyliau diwethaf a beth oedd eich barn amdano?
Roedd fy ngwyliau olaf i Saint-Quay-Portrieux yn Llydaw. Rwyf wrth fy modd yno. Mae pawb yn hamddenol iawn ac yn yfed seidr o gwpanau te yn y prynhawn.