Jump to content

06 Ionawr 2020

Cwrdd a'r Tim: Julia Sorribes

Cwrdd a'r Tim: Julia Sorribes
Beth yw eich enw?
Julia Sorribes


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n Gymhorthydd Gwasanaethau Aelodau a Datblygu Busnes yn CHC.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Roedd yn fwy drwy siawns na dewis bwriadol. Roeddwn yn gweithio i elusen fach ychydig o flynyddoedd yn ôl ac yn gwybod mod i angen newid, felly pan rannodd cyfaill hysbyseb am swydd weinyddol a welodd ar Facebook, neidiais ar y cyfle a gwneud cais. Dyma'r penderfyniad gorau i mi wneud ers blynyddoedd.
Beth yw'r peth pwysicaf rydych chi wedi ei ddysgu ers dechrau ar eich gyrfa yn y sector tai?
Bod llawer mwy i dai na 'dim ond' brics a morter. Yn bennaf oll, mae'n ymwneud â hawl sylfaenol pobl i gael mynediad i fan lle gallant deimlo'n ddiogel a hapus ac wedi cysylltu gyda'r cymunedau o'u hamgylch.


Ble fyddech chi'n gweithio, os dim yn y sector tai?
Mae'n debyg fel golygydd neu gyfieithydd - rwyf wrth fy modd gyda ieithoedd ac yn fy elfen yn helpu eraill i fynegi eu hunain drwy ysgrifennu.


Beth yw hoff ran eich swydd?
Teimlo'n ddefnyddiol a gwybod fy mod mewn rhyw ffordd, pa bynnag mor fach, yn helpu ein haelodau i wneud gwahaniaeth i fywyd llawer o bobl


Beth sydd yn eich cymell?
Bod yn rhan o broses gydweithio a chreadigol.


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Cerddoriaeth a chwerthin gyda chyfeillion agos.


Beth yw eich camp fwyaf?
Dysgu siarad a (rhyw fath o) ysgrifennu Tsieinëeg Mandarin.


Beth sydd wedi achosi mwyaf o embaras i chi?
Rwy'n gynhenid drwsgl, felly mae llawer o achosion o faglu a syrthio dros y blynyddoedd - gormod i ddewis un! Drwy lwc rwy'n adweithio'n gyflym ac wedi dysgu chwerthin am y peth.


Ble aethoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oedd eich barn amdano?
Fe es i Fenis am yr eildro dros flwyddyn yn ôl. Roedd mor odidog ag a gofiwn, ond fe gawsom ein dal gan lanw uchel ac roedd llifogydd yn yr holl gamlesi. Nid oedd yn ymddangos fod y bobl leol yn poeni, ond roedd ailddarganfod y ddinas mewn dŵr ar ein pengliniau yn brofiad diddorol a bron ddoniol.