Jump to content

02 Rhagfyr 2019

Cwrdd â'r Tîm: Joshua Rousen

Cwrdd â'r Tîm: Joshua Rousen

Beth yw eich enw?
Fy enw yw Joshua Rousen (a gaiff ei ynganu fel 'howsen'). Cewch fy ngalw yn Josh.


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n gweithio yn Cartrefi Cymunedol Cymru fel Swyddog Creadigol Brand a Dylunio. Yn sylfaenol, fy ngwaith yw gwneud i'n cyfathrebu mewnol ac allanol edrych yn wych a sicrhau eu bod yn ddealladwy a diddorol. Mae hyn yn cynnwys dylunio graffeg ar gyfer digidol a phrint, ffotograffiaeth a fideograffeg, animeiddio, dylunio ein llwyfan/set ar gyfer cynadleddau a dylunio golygyddol. Rwyf hefyd yn cymryd camau i ddiogelu ein brand ac yn gweithio ar wella profiad defnyddwyr ar gwahanol ein gwahanol sianeli cyfathrebu. Yn gryno, rwy'n gwneud i bethau edrych yn dlws a cheisio sicrhau eu bod yn gweithio'n dda i ddefnyddwyr.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Fel gyda llawer o bobl eraill, fe wnes fath o syrthio mewn i'r swydd. Roeddwn wedi dechrau fy ngyrfa fel dylunydd iau mewn asiantaeth ddylunio gwasanaeth llawn, gan weithio fy ffordd lan dros y blynyddoedd i fod yn brif ddylunydd a rheolwr proseict. Yn ystod yr holl brosiectau hynny, fy ffefrynnau o bell i weithio arnynt oedd y rhai oedd yn ymwneud â chefnogi a helpu pobl a chymunedau. Pan wnaeth dylunydd arall roeddwn yn ei adnabod o'r sector sôn fod y swydd yma ar gael, neidiais ar y cyfle i gymryd rhan mewn sector sy'n cael cymaint o effaith. Gwn nad yw fy rôl neilltuol i yn uniongyrchol gysylltiedig gyda thenantiaid neu gymunedau, ond dyma'r hyn rwy'n ei wneud orau ac roeddwn eisiau cynorthwyo yn y ffordd orau a allwn.


Beth yw'r peth pwysicaf i chi ddysgu ers dechrau ar eich gyrfa yn y sector tai?
Yn union pa mor amrywiol yw'r sector - beth bynnag y swydd. Mae bob dydd yn wahanol. Mae'r heriau yn gyffrous ac mae'r cyfleoedd sy'n fy wynebu yn rhyfeddol, ac rwy'n gweld hynny yn fy nghydweithwyr ym mhob maes. Mae'n wirioneddol hwyl fel canlyniad.


Lle fyddech chi'n gweithio, os nad yn y sector tai?
Byddwn yn tueddu i fynd at ddylunio mewn sector neu sefydliad arall gydag agwedd gymdeithasol, nes byddwn yn gysurus gyda sefydlu fy stiwdio ddylunio fy hun yn canolbwyntio ar gefnogi sectorau fel ein un ni. Hynny, neu addysgu dylunio ar lefel prifysgol.


Beth yw eich hoff ran o'r swydd?
Heblaw am weithio gyda'r bobl hyfryd yn CHC a phobl angerddol ar draws y sector? Mae'n rhaid iddo fod yr amrywiaeth o bethau rwy'n gweithio arnynt. Un funud rwy'n dylunio brand newydd ar gyfer ymgyrch, y nesaf yn chwilio am y ffordd orau i lunio ffeithlun yn cynnwys gwybodaeth gymhleth, yna ffilmio a golygu cynnwys fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac yna'n cynnal gweithdy profiad defnyddwyr i ddiffinio ein cyfeiriad ar gyfer cynnwys digidol. Fy hunllef gwaethaf yw gwneud prosiectau undonog, felly rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith eang rwy'n cael ei wneud.


Beth sy'n eich cymell?
Cwestiwn anodd! Fe fyddwn i'n dweud cyfuniad o ddymuniad ar gyfer gwella'n barhaus (i fi fy hunan a CHC), gwneud pethau sy'n edrych yn wych ac yn gweithio'n dda, a helpu pobl i gefnogi pobl eraill gystal ag sydd modd.


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Dim yn rhy wahanol i'r hyn rwy'n ei wneud yn y gwaith! Rwy'n angerddol am ddylunio felly rwy'n treulio rhan fawr o fy amser hamdden yn dysgu neu weithio ar brosiectau personol. Fy niddordebau mawr eraill yw gemau fideo a pheintio digidol - felly naill ffordd neu'r llall, byddwch yn fy ngweld yn syllu ar sgriniau. Fel arall, rwy'n mwynhau edrych ar ôl fy mhlanhigion yn y tŷ, mynd am dro hir ddiamcan, neu'n eistedd yn dawel mewn caffi yn sipian espresso ac edrych ar bobl.


Beth yw eich llwyddiant mwyaf?
Y tu allan i'r gwaith, mae'n debyg sefydlu a rhedeg dwy gymuned hapchwarae lwyddiannus am flynyddoedd lawer a chwrdd â fy mhartner drwy hynny. Enillodd fy nghymuned hapchwarae ychydig o dwrnameintiau mewn cylchredau lled-broffesiynol hefyd, oedd yn braf. Yn y gwaith, yr ateb fyddai bod yn rhan o dîm gwych (sydd wedi ennill gwobrau! ;)


Y foment wnaeth achosi mwyaf o embaras i chi?
Ar ôl sesiwn faith o hapchwarae, es unwaith i Tesco i brynu anrhegion Nadolig. Es lan at aelod o'r staff a gofyn iddi yn hollol ddifrifol "where does the Bailey's spawn?" Fe sylweddolais ar unwaith fod geirfa hapchwarae wedi dod i mewn yno, felly fe wnes droi o amgylch a gadael, byth i ddychwelyd.


Lle fuoch chi am eich gwyliau diweddaf a beth oedd eich barn amdano?
Y gwyliau byr a gefais yn Abertawe a mynd i Dan yr Ogof, oedd yn braf a hamddenol. Treuliais lawer o amser ar y traeth ac yn y wlad sy'n ddelfrydol fel penwythnos hir i ffwrdd oddi wrth y byd a'i bethau. Roedd y gwyliau mawr olaf (yn anffodus) gryn amser yn ôl, ond aethom i'r Pilipanas am fis. Gwlad ddiddorol tu hwnt o ddiwylliannau hylif iawn, cymysg. Lle gwirioneddol hardd gyda bwyd gwych, ond hunllef go iawn i deithio o'i hamgylch!